Gobaith am wobr i Thomas sydd â’i fryd ar y byd amlgyfrwng
Mae Thomas Watkins yn benderfynol o gael gyrfa yn y cyfryngau er bod anhwylder ar y sbectrwm awtistig yn amharu ar ei leferydd.
Llwyddodd Thomas, 26 oed, o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd, i gwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol (Llwybr y Cyfryngau Rhyngweithiol) trwy’r darparwr hyfforddiant Sgil Cymru wrth weithio i White Hart Multimedia.
Yn awr, cafodd ymdrechion Thomas eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Mae Chris Brooks, cyfarwyddwr White Hart Multimedia, yn llawn edmygedd o Thomas, sy’n weithiwr llawrydd erbyn hyn. “Dydi e byth yn gadael i’r nam ar ei leferydd ei gadw rhag cymryd rhan lawn yn y gwaith. Gallai’r rhwystr hon fod wedi bod yn drech na rhywun heb benderfyniad tawel a dewrder Thomas. Mae’n ysbrydoliaeth i bawb sy’n gweithio yma.”
Mae Thomas wedi creu argraff ar bobl eraill hefyd. Ef oedd Prentis y Flwyddyn y Diwydiannau Creadigol yng Ngwobrau’r Gynghrair Sgiliau Ansawdd (QSA) yng Nghaerdydd eleni.
Dechreuodd ymddiddori yn y cyfryngau digidol a chreadigol yn yr ysgol ac aeth ymlaen i wneud HND mewn Dylunio yn y Cyfryngau Digidol yng Ngholeg Pen-y-bont cyn sicrhau’r brentisiaeth amlgyfrwng.
Roedd ei hyfforddiant yn y gweithle ac yn Stiwdios Pinewood Cymru yn cynnwys graffeg, camerâu, meddalwedd golygu, cyfuno elfennau rhyngweithiol a rhoi prawf ar lwyfannau e-Ddysgu.
Bu Thomas yn gweithio’n annibynnol ar brosiect ffilm ar gyfer clwb dawns mewn ysgol, prosiect oedd yn gofyn am nifer o sgiliau, ac mae ganddo ddawn i brofi modiwlau e-ddysgu a systemau adrodd digidol ac i greu graffeg ar gyfer y pecynnau rhyngweithiol.
“Fy nod mewn bywyd yw gwneud rhywbeth sy’n fy ngwneud yn hapus a, gan fy mod yn mwynhau gweithio yn y maes amlgyfrwng, rwy am wneud gyrfa o hynny,” meddai Thomas.
“Rwy’n gweithio’n llawrydd yn awr, sy’n gyffredin yn y diwydiant hwn oherwydd natur y gwaith, ac rwy’n benderfynol o wneud gyrfa ohoni.”
Wrth longyfarch Thomas ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.
“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.
“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”
Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru
More News Articles
« Gobaith am wobr i Sally sy’n esiampl i ferched ym myd gwyddoniaeth — Lynnette yn rhoi sgiliau Arwain a Rheoli ar waith yn y gweithle »