Gwasanaeth cyfeirio cyflogwyr yn trefnu eu 500fed prentis yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Y prentisiaid, Callum Ackery a Caitlyn Sheldon, gyda (o’r chwith) rheolwr gyfarwyddwr ITeC Abertawe, Helen Necrews; cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW, Jeff Protheroe a chydgyfarwyddwyr Tech-Wales, Adrian Williams a Michael Price.

Mae tîm a benodwyd i’w gwneud yn haws i gyflogwyr ymwneud â Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru er mwyn cynyddu sgiliau eu gweithwyr wedi trefnu ei 500fed prentis.

Mae Tîm Prentisiaethau Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn helpu busnesau ledled Cymru i gyflogi prentisiaid ac yn annog recriwtio pobl ifanc i sectorau sydd o bwys cenedlaethol neu ranbarthol.

Ariannir y tîm gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac mae’n cydweithio’n agos â chyflogwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru i ymdrin ag ymholiadau am Brentisiaethau.

Mae’r tîm yn canfod anghenion cyflogwr a pha fframwaith a llwybr Prentisiaethau sy’n addas cyn ei gyfeirio at y darparwyr dysgu sydd yn y sefyllfa orau i ddarparu Rhaglenni Prentisiaethau mewn sectorau penodol. Yna, mae’r cyflogwr yn penderfynu gyda pha ddarparwr mae’n dymuno gweithio.

Cyrhaeddwyd carreg filltir y 500fed prentis pan recriwtiwyd Caitlyn Sheldon, 20, a Callum Ackery, 24, ar yr un pryd gan Tech-Wales o Bort Talbot. Mae’r ddau yn gweithio ar Brentisiaeth i Weithwyr Proffesiynol TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu a gyflenwir gan ITeC Abertawe.

Mae Tech-Wales yn cynnig gwasanaethau cymorth TG, telathrebu a chyfrifiadura cwmwl i fusnesau bach a chanolig eu maint ledled De Cymru a Chanolbarth Lloegr.

Dywedodd Adrian Williams, Cyfarwyddwr, mai Caitlyn a Callum yw prentisiaid cyntaf y cwmni a’i fod wrth ei fodd â nhw. Yn ystod cyfnod cloi Covid-19, bu’r ddau brentis yn gweithio gartref gan gael hyfforddiant o bell gan y cwmni trwy Microsoft Teams.

“Rydyn ni’n hoffi datblygu ein pobl yn ein ffordd ni o weithio ac, erbyn hyn, a ninnau’n dod allan o’r cyfnod cloi, mae Caitlyn a Callum yn barod am waith, sy’n beth da gan fod y cwmni’n brysurach nag ydoedd cyn Covid-19,” meddai.

“Doedden ni ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth recriwtio ein prentisiaid cyntaf, ond mae wedi mynd yn dda iawn. Cawsom wasanaeth gwych gan Dîm Prentisiaethau NTfW ac ITeC Abertawe.”

Graddiodd Callum, sy’n byw ym Mhort Talbot, mewn Dawns Trefol ym Mhrifysgol Dwyrain Llundain cyn dod yn ôl i Gymru i chwilio am waith. Er iddo ddilyn cwrs coleg mewn TG, cymerodd dros ddwy flynedd iddo gael ei dderbyn yn brentis datblygwr meddalwedd gyda Tech-Wales.

“Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod yn gallu dysgu a datblygu gyda Tech-Wales sy’n gwmni mor braf a chroesawgar i weithio iddo,” meddai Callum, sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD).

“Rwy am symud ymlaen ym maes datblygu meddalwedd ac apiau i fod y gorau y gallaf fod. Ar ôl i chi ddatblygu’r sgiliau, gallwch chi fynd i unrhyw le yn y byd i weithio, a hoffwn wneud hynny yn y dyfodol.”

Mae Caitlyn yn gweithio gyda’r tîm cymorth TG ac yn byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gadawodd yr ysgol â lefelau ‘A’ ond heb fawr o syniad am yrfa bosibl. Ar ôl bod yn y coleg, rhoddodd gynnig ar ychydig o swyddi a gwnaeth Brentisiaeth Sylfaen cyn ymuno â Tech-Wales.

“Bu gen i ddiddordeb erioed mewn TG ac rydw i wrth fy modd gyda fy swydd,” meddai. “Yn y math hwn o amgylchedd, mae yna lawer o ryddid i ganolbwyntio ar galedwedd, meddalwedd neu weithio gyda chwsmeriaid sy’n galw i mewn gyda phob math o wahanol broblemau.

“Fy uchelgais yw symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) a gweld lle mae hynny’n fy arwain gyda’r cwmni. Prentisiaeth yw’r peth gorau i mi oherwydd rwy’n mwynhau dysgu wrth ennill bywoliaeth.

“Rwy’n credu’n bendant y dylai ysgolion wneud mwy i hyrwyddo Prentisiaethau yn hytrach na chanolbwyntio ar brifysgol a choleg yn unig, oherwydd mae cyflogwyr heddiw yn awyddus i gyflogi pobl sydd â phrofiad o fyd gwaith.”

Bu Helen Necrews, rheolwr gyfarwyddwr ITeC Abertawe, yn cydweithio’n agos â Tech-Wales i recriwtio Caitlyn a Callum gan deilwra’r fframwaith Brentisiaethau i anghenion y cwmni.

“Mae’n braf iawn cael atgyfeiriad trwy NTfW ar ôl i gyflogwr fynegi diddordeb mewn recriwtio prentis,” ychwanegodd. “Gobeithio y bydd Callum a Caitlyn yn symud ymlaen gyda Tech-Wales – mae’r cwmni’n haeddu ei ganmol am fwrw ymlaen gyda’r Prentisiaethau yng nghyfnod Covid-19.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Ken Skates: “Mae’n newyddion gwych ein bod ni, ar y cyd ag NTfW, wedi trefnu ein 500fed prentis ers sefydlu’r broses atgyfeirio ar Borth Sgiliau Busnes Cymru.

“Dyna i chi 500 o bobl a oedd yn ansicr, efallai, ynghylch cyfeiriad eu gyrfa ond sydd, diolch i gefnogaeth Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, yn ennill sgiliau, gwybodaeth a hyder newydd, gan ennill cyflog ar yr un pryd.

“Mae prentisiaetu’n hanfodol i’n heconomi ac yn rhan hollbwysig o’n hymateb i effeithiau economaidd pandemig y coronafeirws. Hoffwn ddymuno’r gorau i Callum, Caitlyn a phawb sy’n cychwyn ar brentisiaeth. Hoffwn ddiolch hefyd i fusnesau sy’n rhan o’r rhaglen am eu hymrwymiad i helpu unigolion i symud ymlaen.”

Mae dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel yn aelodau o’r NTfW ac mae ganddo gysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru.

Dywedodd y cyfarwyddwr gweithrediadau, Jeff Protheroe: “Mae trefnu’r 500fed prentisiaeth yn garreg filltir anhygoel i’r gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig. Mae’r ffaith i hyn ddigwydd mewn cyfnod economaidd mor ansicr yn dangos gymaint y mae cyflogwyr ac unigolion yn gwerthfawrogi’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru.

“Yn ogystal â bod yn wych gweld bod cyflogwyr yn dal i recriwtio prentisiaid i gynyddu a datblygu eu gweithluoedd, mae’n galonogol clywed straeon Callum a Caitlyn. Mae’r ddau’n dangos bod pobl ifanc ddisglair a thalentog yn troi at brentisiaethau i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

“Rwy’n annog unrhyw gyflogwr sy’n ystyried defnyddio’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru i ddatblygu eu busnes, ond sy’n ansicr ble i ddechrau, i gysylltu â ni yn NTfW. Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yn barod iawn i helpu.” Mae’r Rhaglen Brentisiaethau yn barod iawn i helpu.”

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod mwy.

Gall pobl sydd am wybod mwy am fanteision dod yn brentis ganfod rhagor o wybodaeth yn https://llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —