Myfyrio ar 5 mlynedd yn Rheoleiddiwr Annibynnol Cymwysterau Nad Ydynt yn Raddau yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Cassy Taylor, Cyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau, Cymwysterau Cymru

Mae’n bum mlynedd ers i Cymwysterau Cymru ddechrau gweithio fel rheolydd annibynnol cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru ac mae hyn felly yn rhoi cyfle inni fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma – ac edrych ymlaen at y dyfodol.

O’r cychwyn cyntaf ein blaenoriaeth fu sicrhau bod pob cymhwyster yn addas at y diben a’i fod yn diwallu anghenion addysg bellach, cyflogwyr a’r gymdeithas ehangach. Ac mae hynny’n egluro pam ein bod wedi neilltuo cymaint o amser ac ymdrech i edrych yn fanwl ar wahanol sectorau cyflogaeth.

Y sector cyntaf i ni ei archwilio oedd iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofal plant. Mae digwyddiadau eleni, wrth i bandemig COVID-19 ysgubo drwy’r byd, wedi dangos yn glir gymaint rydym yn gwerthfawrogi ac yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad ein gweithwyr iechyd, ein gofalwyr a’n gweithwyr gofal plant. Dyna pam y mae’n rhaid i’r cymwysterau sydd ar gael iddyn nhw fod y gorau posibl.

Fe wnaethom ni gyflwyno rhan gyntaf y cymwysterau newydd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant ym mis Medi 2019 ac eleni ychwanegwyd cymwysterau lefel 4 a 5 atyn nhw. Crëwyd y gyfres newydd hon o gymwysterau yn dilyn ymgynghori helaeth â dysgwyr, colegau a chyflogwyr yn y sector er mwyn sicrhau eu bod yn union yr hyn sydd ei angen.

Mabwysiadwyd yr un ymagwedd mewn perthynas â’n holl adolygiadau sector eraill. Cydweithrediad ac ymgynghori yw’r allwedd i’w llwyddiant, ac rydym yn falch bod ein dull o adolygu’r cymwysterau hyn wedi’i groesawu gan y bobl hynny sy’n gweithio, yn addysgu ac yn astudio yn y sectorau.

Rydym ni nawr yn cyfrif yr wythnosau tuag at gyfnod dechrau dysgu’r cymwysterau Adeiladu ac Amgylchedd Adeiledig newydd ym mis Medi 2021.

Yn yr ad-drefniad mwyaf ers cenhedlaeth, mae marchnad gymhleth sy’n cynnwys cannoedd o gymwysterau cyfredol yn cael ei symleiddio i greu cyfres o gymwysterau newydd a fydd yn helpu i ail-lunio addysg a hyfforddiant ar gyfer y diwydiant yng Nghymru.

Bydd y cymwysterau newydd hyn yn cynnig gwell llwybrau dilyniant tuag at gyflogaeth yn achos y dysgwyr. Bydd yr asesiad yn symlach ac yn gadarn, ac yn sicrhau bod y bobl ifanc yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfaoedd.

Yn y cyfamser, rydym yn datblygu meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster TAG UG/ Safon Uwch newydd mewn Technoleg Ddigidol, a fydd ar gael i’w addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2022.

Mae hyn yn dilyn ein hadolygiad o gymwysterau yn y sector technoleg ddigidol. Rydym wedi lansio arolwg er mwyn casglu barn ar y cynigion, a gellir cyrchu’r rhain ar ein gwefan tan y dyddiad cau, sef 23 Hydref.

Rydym hefyd wedi trefnu ambell weminar, lle byddwn yn crynhoi ein cynigion ar gyfer y cymhwyster newydd hwn ac yn caniatáu ichi ofyn cwestiynau. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am yr arolwg a’r gweminarau ar ein gwefan.

Hefyd, mis nesaf byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein hadolygiad i gymwysterau yn y sectorau peirianneg, gweithgynhyrchu uwch lle byddwn yn nodi canfyddiadau gwaith gyda’r sector hanfodol hwn.

Mae’n amser heriol i bawb sy’n ymwneud â chymwysterau galwedigaethol ac rydym yn falch o fod yn parhau â’n rhaglen o adolygiadau sector ac yn ei ehangu dros y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn rhannu ein cynlluniau gyda chi yn fuan iawn ac rydym yn edrych ymlaen at berthynas agos barhaus â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’i aelodau.

Cymwysterau Cymru

More News Articles

  —