Gweithdai ar-lein yn helpu hyfforddwyr i roi gwell cymorth i ddysgwyr awtistig

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Yn y llun, mewn digwyddiad dysgu seiliedig ar waith, Gweithio gydag Awtistiaeth a gynhaliwyd yn ACT Training, Caerdydd, mae (o’r chwith) Sara Harvey, arweinydd strategol cenedlaethol a Wendy Thomas, arweinydd proffesiynol cenedlaethol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, Ben Gray, aelod cabinet Cyngor Sir Caerdydd a’r Fro dros ofal cymdeithasol ac iechyd, y Gweinidog Addysg Kirsty Williams AS, Darren James ac Ellie Curtis sy’n brentisiaid, Charlotte Dando o ACT Training a Humie Webbe o’r NTfW.

Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru’n dilyn gweithdai ar-lein yn ystod pandemig COVID-19 er mwyn gwella’r cymorth a roddir i ddysgwyr awtistig.

Cofrestrodd 90 o bobl sy’n gweithio i 18 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ar gyfer y ddau weithdy diweddaraf, a drefnwyd gan Humie Webbe, arweinydd strategol cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Arweinir y gweithdai gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r tîm yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i helpu i wella bywydau pobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr ledled Cymru.

Bu’r tîm yn gweithio gydag arweinwyr ym maes awtistiaeth ledled Cymru, yr NTfW ac ACT Training, Caerdydd, ynghyd â phobl awtistig i baratoi pecyn adnoddau ar gyfer dysgu seiliedig ar waith. Mae’r pecyn adnoddau i’w weld yn ASDinfoWales.co.uk.

Mae dau ganllaw yn y pecyn – un i helpu darparwyr dysgu i ddeall a chefnogi pobl awtistig a’r llall i helpu dysgwyr awtistig i ddilyn eu taith trwy ddysgu seiliedig ar waith yn llwyddiannus.

Mae’n rhoi cyngor, gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol i ddarparwyr hyfforddiant i helpu i greu amgylchedd addas i bobl awtistig yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys ystyried elfennau synhwyraidd a chyfathrebu, ynghyd â rheoli tasgau a chefnogaeth yn y gwaith.

Yng gweithdy ar-lein yr hyfforddwyr cânt wylio ffilm sy’n dangos beth y mae awtistiaeth yn ei olygu i dri o bobl awtistig, yn cynnwys cyfathrebu cymdeithasol, patrymau ac arferion, profiadau synhwyraidd a sut i wneud gwelliannau. Mae Dr Elin Walker Jones, seicolegydd ymgynghorol, yn cyfrannu llais proffesiynol.

Bwriad y ffilm yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth, yn enwedig mewn perthynas â dysgu seiliedig ar waith, gan rannu gwybodaeth ac arferion da.

Ar ôl gwylio’r ffilm ac edrych dros y pecyn adnoddau, mae’n rhaid i’r hyfforddwyr ateb cyfres o 20 o gwestiynau’n gywir er mwyn cael Tystysgrif Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth.

Mae un darparwr hyfforddiant, North Wales Training, wedi ennill y Dystysgrif Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth ar gyfer y cwmni ar ôl i 41 allan o 45 o’r hyfforddwyr a’r aseswyr gwblhau’r gweithdy’n llwyddiannus ar 3 Mehefin.

Dywedodd Ruth Collinge, rheolwr contractau North Wales Training, bod holl hyfforddwyr ac aseswyr y cwmni wedi elwa ar y gweithdy.

“Mae gennym lawer o ddysgwyr sy’n awtistig ac mae’r staff, fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus, bob amser yn chwilio am adnoddau dysgu newydd er mwyn eu cefnogi,” meddai. “Mae adnoddau’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gyfer staff a dysgwyr yn dda iawn ac maent wedi codi ymwybyddiaeth pawb.

“Mae’r staff wedi dysgu sut i ddatblygu strategaethau dysgu neilltuol er mwyn deall dysgwyr awtistig a’u cefnogi’n well.”

Dywedodd Wendy Thomas, arweinydd proffesiynol cenedlaethol y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ym maes awtistiaeth, ei bod yn falch â’r diddordeb a ddangoswyd yn y rhith-weithdy.

“Mae’n dangos bod gwir angen am yr adnodd dysgu hwn,” meddai. “Rydym wrth ein bodd yn gweld pobl yn ei ddefnyddio ac yn rhoi’r canllawiau ar waith.

“Mae’n bwysig sicrhau bod pawb yn gwybod y gall pobl awtistig gymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith. Dylai pawb gael yr un cyfle i ddilyn yr yrfa o’u dewis, pa un bynnag a ydyn nhw’n awtistig neu beidio. Y peth pwysicaf yw cael y person cywir i’r swydd gywir.”

Roedd Humie Webbe yn falch bod daparwyr dysgu seiliedig ar waith a cholegau addysg bellach ledled Cymru wedi ymateb yn gadarnhaol i’r gweithdai ar-lein ac roedd am eu hannog i gyd i ymgeisio am y Dystysgrif Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth i sefydliadau.

“Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru’n awyddus iawn i sicrhau bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i gefnogi dysgwyr niwro-amrywiol,” meddai.

“Byddwn yn cynnal sesiynau dilynol yn yr hydref er mwyn clywed oddi wrth y darparwyr dysgu sut y maen nhw’n defnyddio’u sgiliau newydd a’r adnoddau dysgu.”

More News Articles

  —