Darparwyr hyfforddiant Cymru’n croesawu cronfa gymorth o £40m i hybu sgiliau a swyddi

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae sefydliad sy’n cynrychioli dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith o safon uchel sydd â chysylltiadau â miloedd o gyflogwyr ledled Cymru wedi rhoi croeso cynnes i gronfa o £40m i hybu sgiliau a swyddi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Mawrth).

Dywed Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) yn bydd yn dal i gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i gyflenwi’r pecyn cymorth, sy’n cynnwys rhagor o brentisiaethau, hyfforddeiaethau, cymorth i bobl sydd wedi colli eu swyddi a rhaglenni ailhyfforddi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addunedu i gefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu eu helpu i gychwyn eu busnes eu hunain er mwyn helpu Cymru i ddod dros argyfwng y coronafeirws. Y nod yw “ailgodi’n gryfach a sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl”.

Wrth galon y gronfa newydd mae adduned y bydd pawb dros 16 oed yn cael yr help y mae arnynt ei angen i gael cyngor a chefnogaeth i ddod o hyd i waith neu i fynd yn hunangyflogedig neu i ganfod a derbyn lle mewn addysg neu hyfforddiant.

Bydd pecyn Cyflogadwyedd a Sgiliau Llywodraeth Cymru’n helpu cyflogwyr i roi gwaith i weithwyr newydd, gyda chymelliadau iddynt recriwtio prentisiaid a phobl ifanc. Bydd hefyd yn helpu oedolion i oresgyn rhwystrau wrth gadw gwaith a chael gwaith, gan ganolbwyntio ar sectorau twf Cymru.

Mae’r cynllun yn rhoi pwyslais ar sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y bobl y bydd y dirywiad economaidd yn effeithio fwyaf arnynt, yn cynnwys pobl anabl, rhai o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, menywod a rhai sydd heb lawer o sgiliau ac sydd ar gyflogau isel.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cymorth yn hanfodol er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd disgwyliedig mewn diweithdra a’r perygl y bydd y pandemig coronafeirws yn gwaethygu’r anghydraddoldeb economaidd.

Jeff Protheroe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, NTfW

Croesawyd y cyllid ychwanegol gan Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau’r NTfW. “Er ein bod yn disgwyl i gael gweld union fanylion yr hyn a gynigir, mae’r cyhoeddiad heddiw yn amlwg yn gam i’r cyfeiriad cywir,” meddai. “Bydd y cyllid ychwanegol yn hwb sylweddol i’r cyflogwyr a’r unigolion hynny fydd yn elwa ar y cymorth.

“Mae gan Gymru raglenni gwych i hybu cyflogadwyedd a sgiliau eisoes, yn cynnwys prentisiaethau, hyfforddeiaethau a Twf Swyddi Cymru, pob un ohonynt yn cael eu cyflenwi trwy ein rhwydwaith o ddarparwyr safonol.

“Bydd yr hyn a gynigiwyd heddiw yn sicrhau, nid yn unig bod yna rwyd ddiogelwch ar gyfer yr holl unigolion sydd mewn perygl o ddioddef, ond hefyd bod yna sbardun ar gyfer y rhai sy’n awyddus i sicrhau gwell dyfodol, fel rhan o gynllun ehangach i adfer economi Cymru.

“Gwyddom fod yr hinsawdd economaidd presennol yn amharu ar bobl ifanc yn barod a, heb ymyrraeth gan y llywodraeth, bydd hyn yn creu ‘cenhedlaeth goll’ arall.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’i bwriad ac mae ein rhwydwaith ni o ddarparwyr yn barod i’w chefnogi ac i weithredu ar hynny. Yn awr, mae arnom angen i gyflogwyr ac unigolion fanteisio ar y pecyn cymorth fel y gallwn gydweithio i sicrhau bod ‘Tîm Cymru’ yn ailgodi’n egnïol o’r sefyllfa economaidd bresennol.

“Mae i brentisiaethau, hyfforddeiaethau a rhaglen Twf Swyddi Cymru fanteision pendant i gyflogwyr ac unigolion fel ei gilydd. Rydym yn annog pawb sy’n gymwys i gael cymorth i wneud cais i’r rhaglenni hyn er mwyn elwa ar eu llwyddiant.

“Bydd yr NTfW a’i aelodau’n dal i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod pob ceiniog o’r cyllid ychwanegol hwn yn cael ei defnyddio er lles, a bod pob cyflogwr ac unigolyn sy’n dymuno cael y cymorth yn derbyn y gwasanaeth a’r canlyniad y maent yn ei haeddu.

Gall busnesau ganfod sut y gallant elwa o gyflogi prentis neu gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol trwy nodi eu diddordeb yn businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu trwy ffonio 03301 228 338 i gael gwybod mwy.

Gall unigolion sy’n dechrau canfod eu ffordd ym myd gwaith neu sy’n cymryd camau tuag at newid gyrfa ddysgu mwy yn llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth.

More News Articles

  —