Gweithgareddau rhithwir yn Wythnos Addysg Oedolion 2020!

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Andrea Garvey

Wythnos Addysg Oedolion yw’r ymgyrch fwyaf ym myd addysg oedolion yng Nghymu. Caiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) yng Nghymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac eraill.

Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli ac annog miloedd o oedolion bob blwyddyn i barhau i ddysgu a datblygu sgiliau mewn llawer o wahanol ffyrdd. Mae hefyd yn helpu i godi ymwybyddiaeth o werth addysg oedolion trwy ddathlu llwyddiant dysgwyr a darparwyr ac ysbrydoli rhagor o bobl i ganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau er gwell.

Gwneir hyn trwy gydweithio â llu o sefydliadadu preifat a chyhoeddus i hyrwyddo digwyddiadau profi di-dâl, sesiynau cwta, gweithgareddau hyrwyddo, cyrsiau byr, ac arweiniad a chefnogaeth ym maes gyrfaoedd a sgiliau er mwyn hybu oedolion ledled y wlad i fynd yn ôl i ddysgu.

Mewn ymateb i’r coronafeirws (COVID-19), cynhelir ymgyrch rithwir eleni ar wahanol blatfformau ar-lein.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn awyddus i greu’r gronfa fwyaf a welwyd erioed yng Nghymru o adnoddau digidol addysg oedolion. Credant ei bod yn bwysicach nag erioed i ddwyn eu hadnoddau ynghyd a chydweithio er lles Cymru a sgiliau’r dyfodol trwy ymgyrch rithwir Wythnos Addysg Oedolion.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd sefydliadau sydd â diddordeb mewn trefnu sesiynau ar-lein ym mis Mehefin i gysylltu â nhw.

Gallech benderfynu cyflwyno sesiynau ffurfiol neu anffurfiol, yn cynnwys dysgu digidol, celf a chrefft, ieithoedd, mathemateg sylfaenol, ymarfer corff, neu farchnata trwy’r cyfryngau cymdeithasol. Gall sesiynau profi ar-lein fod yn gyfuniad o diwtorials, gweminarau a chyrsiau – rhai byw a rhai wedi’u recordio ymlaen llaw. Cewch wybod mwy am Wythnos Addysg Oedolion yma.

Mae’r ymgyrch yn cael llawer o sylw yn y cyfryngau yng Nghymru, gyda Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli! yn dathlu llwyddiant pobl, prosiectau a sefydliadau. Caiff cannoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau eu trefnu gan lu o ddarparwyr a chodir ymwybyddiaeth o bwysigrwydd meithrin diwylliant cenedlaethol o ddysgu gydol oes.

Andrea Garvey, myfyrwraig yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe, a enillodd y ‘Wobr Newid Bywyd a Symud Ymlaen’ yng Ngwobrau Ysbrydoli! y Sefydliad Dysgu a Gwaith 2019. Roedd Andrea yn un o 12 enillydd a gafodd eu cydnabod yn y Gwobrau y llynedd.

Cafodd Andrea, o Bort Talbot, sy’n fam sengl i dri, byliau difrifol o orbryder, iselder a phrofedigaeth fawr wrth astudio llawn-amser i wireddu’r uchelgais oedd ganddi er pan oedd yn blentyn i fod yn gyfreithwraig. Er gwaetha’r anawsterau, enillodd radd gymhwyso yn y gyfraith yn 51 oed, gan raddio ag LLB yn y Gyfraith yn 2018, 35 o flynyddoedd ar ôl gadael yr ysgol heb gymwysterau o gwbl.
Dywedodd Andrea, “Fe ddewisais i symud ymlaen un cam ar y tro a derbyn y pethau da a’r pethau drwg. Peidiwch â meddwl gormod am rwystrau a pheidiwch ag edrych yn rhy bell ymlaen. Fe synnwch faint y gallwch ei gyflawni – rwy’n gwybod achos rwy wedi gwireddu fy mreuddwyd.”
Darllenwch stori Andrea yn llawn yma.

More News Articles

  —