Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae cyflogwyr disglair, dysgwyr ysbrydoledig ac ymarferwyr ymroddedig dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi cyrraedd rhestrau byrion gornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni.

Eleni, cynhelir y seremoni wobrwyo yn ddigidol ar sianel YouTube Llywodraeth Cymru am 7 o’r gloch nos Iau 29 Ebrill. Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori.

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhoi sylw i’r rhai sydd yn y rownd derfynol, ac i’r Gwobrau eu hunain, ar Facebook a Twitter. Cofiwch hoffi, rhannu a phostio sylwadau gan ddefnyddio #AAC2021.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Cewch wybod rhagor am y rhai sydd yn y rownd derfynol yn llyw.cymru/gwobrau-prentisiaethau-cymru

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

More News Articles

  —