Hayley sydd â dull “cryf ond cefnogol” wedi’i henwebu am wobr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Hayley Lewis – yn llwyddo i gael y gorau o’i dysgwyr.

Mae Hayley Lewis wedi llwyddo i gadw ar flaen y gad ym maes dysgu seiliedig ar waith yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc) trwy fod un cam ar y blaen mewn diwydiant sy’n newid yn barhaus.

Trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y person, mae Hayley, o Hwlffordd, yn aelod uchel ei pharch o’r tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn TSW, Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae’n cyflwyno nifer o gyrsiau.

Yn awr, mae Hayley wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru y mis nesaf, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

A hithau â 13 blynedd o brofiad mewn dysgu seiliedig ar waith, mae gan Hayley ddull “cryf ond cefnogol” o weithio sy’n llwyddo i gael y gorau o’i dysgwyr trwy asesiadau un-i-un yn y gweithle a thrwy weithdai.

Gyda’i gwybodaeth eang a thrwyadl am ei maes, gall sicrhau bod ei dysgwyr yn deall newidiadau mewn deddfwriaeth ac yn eu cymhwyso i amgylchiadau penodol eu gweithlu – rhywbeth sy’n werthfawr iawn i bobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc agored i niwed.

“Rwy’n teimlo’n angerddol am ddefnyddio fy sgiliau dysgu ac asesu ar y cyd â fy arbenigedd mewn sector sy’n aml yn cael ei danbrisio,” meddai Hayley, sy’n 51 oed. “Fel rhan o fy swydd fel asesydd, rwy’n cydweithio â rhanddeiliaid ac rwy’n ymfalchïo mewn meithrin a chynnal perthynas broffesiynol gyda fy nhîm, cyflogwyr a dysgwyr fel ei gilydd.

“Rwy’n credu y dylai dysgu fod yn ystyrlon, yn ddifyr ac yn ddiddorol, gan ymestyn a herio pobl ddigon i sicrhau bod eu gwaith fel rheolwyr yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael effaith eithriadol o gadarnhaol ar blant a phobl ifanc.”

Mae Hayley’n ymwneud â chyflogwyr o’r dechrau’n deg ar raglenni dysgu er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth effeithiol a bod y rhaglenni’n cael eu haddasu i ateb eu hanghenion neilltuol.

“Yn ogystal â darparu’r hyn y mae ar ei dysgwyr ei angen, mae Hayley bob amser yn rhannu ei harferion gorau gyda’i chydweithwyr fel bod y sector cyfan yn elwa ar ei phrofiad a’i harbenigedd cyfoethog,” meddai Toni Hughes, Arweinydd Datblygu Ansawdd TSW.

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Hayley a phawb arall oedd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr hyfforddiant a hyfforddeion.”

More News Articles

  —