Hoffter o anifeiliaid yn arwain at swydd ddelfrydol i Lois ar fferm laeth

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Lois Jones yn porthi llo.

Lois Jones yw’r ferch gyntaf i wneud Prentisiaeth Sylfaen ddwyieithog mewn Amaethyddiaeth trwy Goleg Meirion-Dwyfor, Campws Glynllifon. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Oherwydd ei hoffter o anifeiliaid, roedd yn falch o gael swydd ar fferm laeth ger ei chartref yn Llanfachraeth, ger y Fali, Ynys Môn.

Mae Lois, 18 oed, hanner ffordd trwy Brentisiaeth Sylfaen ddwy flynedd, ac mae ei swyddog lleoliad gwaith, Steven Adams, wrth ei fodd â’r ffordd mae’n dod ymlaen ar fferm deuluol 470 erw lle mae Ceredig Evans a’i wraig Sara’n cadw buches o 300 o wartheg Holstein Ffrisia.

“Dwi’n mwynhau bod hefo anifeiliaid a gweithio yn yr awyr agored,” meddai Lois. “Ro’n i’n gwybod pan adewais i’r ysgol yr hoffwn i roi cynnig ar weithio ar fferm. Dwi wrth fy modd yn gweithio hefo’r lloi ac yn gwneud y shifft odro gynnar.”

Cafodd Ddiploma BTEC Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Campws Glynllifon, cyn symud ymlaen i’r brentisiaeth sylfaen. “Mi benderfynais i wneud prentisiaeth ddwyieithog am ei bod yn haws i mi drafod yn Gymraeg, fy iaith gyntaf, ac ysgrifennu yn Saesneg,” meddai.

“Mae’n deimlad da mai fi ydi’r hogan gyntaf i wneud prentisiaeth amaethyddiaeth yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Campws Glynllifon. Yn y dyfodol, mi hoffwn i gael profiad o weithio ar ffermydd mwy o faint, nid dim ond ar Ynys Môn ond mewn llefydd eraill hefyd.”

Mae’n credu ei bod hi a’i brawd, Iolo, wedi cael y reddf ffermio gan eu taid, Arthur, a oedd yn gweithio ar fferm.

Mae Sara Fewtrell Evans wrth ei bodd â chyfraniad Lois ar y ffarm. “Lois yw’n prentis cyntaf ni ac rydym yn falch iawn â’r ffordd mae’n datblygu. Mae’n dda iawn am ddod i odro yn y bore, gan ddechrau gwaith am 4am, sy’n dangos ymroddiad mawr i fywyd y ffarm.

“Mae Lois yn un o ddwy ferch sy’n gweithio i ni ac mae gan y ddwy ddawn naturiol gyda gwartheg a lloi. Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ei bod yn gallu gwneud ei phrentisiaeth yn ddwyieithog achos rŷn ni’n gweithio yma trwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf a Cymraeg yw llawer o eirfa’r gymuned amaethyddol. ”

Dewiswyd y fferm yn fferm arddangos Cyswllt Ffermio ac, ym marn Sara, mae prentisiaeth Lois yn gweddu i’r dim i’r prosiect tair blynedd. Mae’n bwriadu chwilio am gyfleoedd i Lois a gweithwyr eraill y fferm ddilyn cyrsiau Cyswllt Ffermio yn y dyfodol er mwyn datblygu eu sgiliau.

Dywedodd Mr Adams: “Mae Lois yn gweithio’n galed ac yn gwneud yn dda iawn ar y ffarm. Cymraeg yw prif iaith ffermwyr yn yr ardal hon ond rwy wedi gweld bod y rhan fwyaf o fy mhrentisiaid yn dewis siarad Cymraeg ac ysgrifennu Saesneg.

“Mae’r adnoddau gan Gampws Glynllifon Coleg Meirion-Dwyfor i gynnig cymwysterau’n ddwyieithog ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i ddysgwyr gael cynnig y dewis hwnnw.”

Gwaith Ryan Evans, hyrwyddwr dwyieithrwydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yw helpu darparwyr hyfforddiant ar gyfer prentisiaethau i geisio gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae NTfW yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cymwysterau Cymru a nifer o randdeiliaid eraill i wella darpariaeth ac argaeledd cymwysterau Cymraeg a dwyieithog er mwyn gwireddu’r weledigaeth o Gymru ddwyieithog.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: “Dyma stori sy’n dangos pa mor bwysig ac anghenrheidiol yw cynnig y Gymraeg ym maes prentisiaethau. Wrth i ni geisio cyrraedd nod y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, mae creu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau iaith yn y gweithle yn amhrisiadwy.

Er bod y ffigyrau yn dangos bod y nifer sydd yn astudio prentisiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn gymharol isel, mae’n dda gweld datblygiadau cadarnhaol i wella’r cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, byddwn fel swyddfa yn gweithio i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y system addysg a’r bobl sy’n dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol yn gallu defnyddio eu sgiliau; a bod sefydliadau hefyd yn gweld gwerth i’r iaith.”

More News Articles

  —