Holl ddysgwyr Tim, sydd ar y rhestr fer am wobr, yn dal ati ac yn llwyddo

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Tim Robinson - ei holl ddysgwyr wedi dal ati a chwblhau’r cymhwyster

Tim Robinson – ei holl ddysgwyr wedi dal ati a chwblhau’r cymhwyster

Mae asesydd technegol Coleg Cambria mewn peirianneg awyrofod a thrydanol, Tim Robinson, yn gwneud mwy nag sydd raid yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod ei ddysgwyr yn llwyddo.

Daeth Tim, 53 oed, o’r Fflint, yn aelod allweddol o’r staff ers iddo ddod i’r coleg o fyd diwydiant yn 2009.

Mae’n gweithio’n galed i ddatblygu ei sgiliau dysgu ac asesu ac mae wedi cwblhau’r cymhwyster i aseswyr, ILM mewn Annog a Mentora, cymhwyster City & Guilds mewn Cefnogi Oedolion a Phobl Ifanc â Sgiliau Hanfodol a TAR er mwyn cynnig gweithdai sgiliau ychwanegol.

Mae holl ddysgwyr Tim ers 2014 wedi dal ati a chwblhau eu cymhwyster ac mae’n rhannu arferion gorau gyda thîm awyrofod a pheirianneg y coleg yn rheolaidd. Yn ogystal, mae wedi cymryd rhan ym mhrosiect Ewropeaidd Leonardo, “Cydgordio Gosodiadau Trydan”, oedd yn canolbwyntio ar weithgareddau asesu ar gyfer peirianneg drydanol.

Yn awr, mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Asesydd y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Mae WorldSkills wedi defnyddio ymarferiad sgiliau dwylo ym maes awyrofod a ddatblygwyd gan Tim. Yn ogystal, mae wedi helpu i addasu fframwaith Prentisiaethau ar gyfer Airbus UK sydd wedi’i fabwysiadu gan EAL ac mae wedi datblygu rhaglen sgiliau trydanol arbenigol ar gyfer dysgwyr Airbus.

Caiff Tim ei edmygu gan y dysgwyr am eu hysgogi a’u cefnogi a dywed llawer bod Tim wedi’u cadw rhag gadael eu Prentisiaeth pan oeddent o dan bwysau. Canmolir safon uchel eu portffolios yn aml gan y corff dyfarnu EAL.

Dywedodd Robert Seiga o Dŵr Cymru, a ddilynodd Brentisiaeth mewn Peirianneg Drydanol: “Dydi geiriau fel ‘gwych’, ‘ffantastig’ ac ‘anhygoel’ ddim yn ddigon i ddisgrifio’r gefnogaeth a’r help a gawson ni gan Tim – roedd o’n llawer iawn gwell na hynny.”

Dywedodd Vicky Barwis, cyfarwyddwr dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Cambria: “Mae ymroddiad Tim i’w ddysgwyr yn eithriadol ac mae’n haeddu cael ei gydnabod. Mae’n awyddus i ddangos i’w ddysgwyr bod dysgu yn para am byth a hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gymhwyso bydd angen gwella’n barhaus.”

Wrth longyfarch Tim ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —