Hyfforddeiaeth yn helpu i drawsnewid bywyd bachgen ifanc pryderus
Mae bachgen ifanc a fu’n nerfus a phryderus wedi “dod allan o’i gragen” diolch i gymorth Ymddiriedolaeth y Tywysog a’r darparwr hyfforddiant The People Business-Wales.
Am gyfnod byddai Neil Jones, 18 oed, o Drebefered, Llanilltud Fawr, yn gwneud dim ond aros yn ei lofft yn chwarae gemau cyfrifiadurol trwy’r dydd ond erbyn hyn mae’n brentis gwerthfawr yn siop Peacocks, y Barri.
Y trobwynt iddo oedd cwblhau Rhaglen Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog (Ymgysylltu) gyda The People Business-Wales. Symudodd ymlaen i Hyfforddeiaeth Lefel 1 a chyn pen pedair wythnos cynigiwyd Prentisiaeth iddo gyda Peacocks.
Yn awr, cafodd ymdrechion Neil eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.
Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.
Pan oedd yn yr ysgol, roedd Neil yn bwriadu mynd ymlaen i’r chweched dosbarth ac enillodd chwe TGAU a Thystysgrif BTEC Lefel 2 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, ond newidiodd ei feddwl oherwydd iselder a gorbryder o ganlyniad i fwlio.
Byddai’n cuddio yn ei lofft, yn cymysgu llai a llai â’i deulu a’i ffrindiau hyd nes i’w dad ei annog i gyfarfod â chynghorydd gyrfa. Arweiniodd hynny ef i gymryd rhan yn Rhaglen Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog.
Bu cymryd rhan mewn prosiect cymunedol a threulio diwrnod fel ymladdwr tân yn help i wella’i sgiliau gweithio mewn tîm a datrys problemau, a bu’n hwb iddo ymwneud yn hyderus â phobl eraill.
Erbyn hyn, mae’n aelod “gwerthfawr, dibynadwy a brwd” o staff Peacocks ac mae’n gobeithio mynd i’r coleg i astudio busnes.
“Mae gweithio yn Peacocks wedi fy helpu i edrych ymlaen i’r dyfodol,” meddai Neil. “Rwy eisiau dal i wella a wynebu heriau newydd. Rwy’n teimlo fy mod wedi dod allan o fy nghragen ac y gallaf edrych ymlaen at y dyfodol.”
Dywedodd Caroline Morris-Hills, rheolwr canolfan The People Business-Wales Ltd yn y Barri: “Bu newid enfawr yn Neil o pan gychwynnodd ar yr Hyfforddeiaeth i pan ddaeth at Peacocks. Mae wedi dod yn ddyn ifanc hyderus a huawdl sydd â’r egni i ragori mewn gyrfa o’i ddewis.”
Wrth longyfarch Neil ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.
“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.
“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”
Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru
More News Articles
« Aduniad o ddysgwyr gwallt a harddwch a fu ar brofiad gwaith yn Ewrop — Gobaith am wobr i Mariska ar ôl goresgyn rhwystrau i gychwyn ar lwybr gyrfa »