Hyfforddiant yn agor y drws ar ddyfodol hapusach i Billy

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Billy Brown with trainer Rhys Hills at Peoples Business Wales in Barry.

Billy Brown a’i hyfforddwr, Rhys Hills, yn Peoples Business Wales yn y Barri.

Gorbryder difrifol, dim hunan-hyder a dymuniad i ddianc rhag bywyd, cilio i’w lofft a chuddio oddi wrth bawb – dyna oedd bywyd arferol Billy Brown tan iddo benderfynu defnyddio’i unig ddiddordeb a’i unig ffordd o gysylltu â’r byd y tu allan – ei gyfrifiadur – i gael gyrfa.

O ganlyniad i anhrefn yn ei gartref a baich ansicrwydd emosiynol dwys, treuliodd Billy y rhan fwyaf o’i arddegau’n eistedd mewn cornel yn ei ystafell, ei hwdi dros ei ben, heb siarad â neb. Anaml yr âi i’r ysgol, ni chymerodd yr un arholiad ac fe gaeodd ei hunan yn ei lofft am dair blynedd heb gymdeithasu â neb ond trwy’r cyfrifiadur.

Fodd bynnag, mae hynny i gyd yn y gorffennol. Llwyddodd y bachgen 18 oed o’r Barri i ddod dros ei bryderon a chychwyn ar Raglen Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog sy’n cael ei rhedeg trwy’r darparwr hyfforddiant The People Business-Wales Ltd.

Erbyn hyn, mae Billy wedi’i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Ddysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu) yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celftic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Dri mis ar ôl cychwyn ar yr Hyfforddeiaeth Ymgysylltu ym mis Chwefror eleni, mwynhaodd Billy bythefnos o flas ar waith gyda Crystal IT, gwnaeth ffrindiau ar arhosiad preswyl a chymerodd ran mewn cyflwyniad o flaen cynulleidfa.

Mae Billy’n dal i gael hyfforddiant gyda People Business-Wales ac mae ganddo leoliad gwaith llawn amser gyda Crystal IT.

Dywedodd rheolwr y Ganolfan, Caroline Morris-Hills: “Mae’r newid yn Billy o’r adeg pan gychwynnodd ar yr hyfforddiant yn rhyfeddol. Doedd ganddo ddim hyder, dim hunan-barch a dim disgwyliadau. Mae wedi agor llawer o ddrysau ac mae ganddo ddigonedd o hyder a hunan-werth.”

Dywedodd Billy: “Rwy’n berson hapusach. Mae’r hyfforddiant wedi agor y drws ar pwy ydw i a beth rydw i eisiau ei gyflawni. Rwy’n gwybod bod gen i ddyfodol.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Billy ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —