Adam yn pontio’r bwlch rhwng gwaith a chymwysterau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

The signs are good for Adam Griffiths’ career.

Mae’r arwyddion yn dda ar gyfer gyrfa Adam Griffiths.

Er iddo gael problem â’i iechyd yn ystod ei brentisiaeth, fe lwyddodd Adam Griffiths i gael rhagoriaeth â seren yn ei flwyddyn gyntaf a swydd lawn amser ar ddiwedd y rhaglen.

Roedd Adam yn awyddus i ddatblygu gyrfa ym maes peirianneg sifil a cychwynnodd ar Fframwaith Adeiladu (Technegol a Phroffesiynol) gyda Choleg Pen-y-bont gan weithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Tra oedd ar y rhaglen, cafodd symptomau anewrysm a bu’n rhaid iddo golli darlithoedd a gwaith tra oedd yn yr ysbyty. Serch hynny, cafodd ragoriaeth yn ei flwyddyn gyntaf ac aeth ymlaen i ennill Diploma BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig a Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil ar gyfer Technegwyr ynghyd â chymwysterau eraill.

Oherwydd ei lwyddiant, mae wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prentis y Flwyddyn yn seremoni fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gynhelir yn y Celtic Manor, Casnewydd ar Hydref 20.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

“Rwy wedi gweithio’n galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gael y marciau a gefais ac, er fy mod wedi dod ar draws rhwystrau ac anawsterau, rwy wedi dal ati, rhoi o’m gorau a goresgyn yr heriau,” meddai Adam, 28 oed, o Ynysybwl.

Bu gan Adam ran allweddol yn datblygu nifer o brosiectau TGCh yn ystod ei brentisiaeth ac erbyn hyn mae’n gynorthwywr cefnogaeth dechnegol llawn amser, ar fin cychwyn ar HND mewn Peirianneg Sifil.

Dywedodd Maria Jones, Cydlynydd Prentisiaethau gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf: “Oherwydd ei frwdfrydedd, ei barodrwydd i ddysgu a’i awydd i ddefnyddio dulliau dyfeisgar i wella neu ddatblygu systemau, mae’n aelod pwysig o’n tîm. Mae ganddo botensial mawr i symud ymlaen ym maes peirianneg.”

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Adam ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —