Datblygu Rhagoriaeth GwylSgiliau24
Mae GwylSgiliau yn dychwelyd am yr ail flwyddyn ar ôl cyflwyno blwyddyn gyntaf lwyddiannus o godi sgiliau, safonau a gwybodaeth ar draws addysg a diwydiant yng Nghymru.
Gwelodd chyfres o weithdai datblygu rhagoriaeth yn darparu cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus i ymarferwyr yng Nghymru yn ystod GwylSgiliau23. Wedi’u gwasgaru ar draws gwahanol sectorau, cyflwynwyd 11 sesiwn o’r Celfyddydau Coginio i Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Awtomatiaeth a Dylunio Gwefannau. Yn ystod yr wythnos daeth dros 80 aelod o staff addysg ynghyd i wella eu sgiliau a’u harferion addysgu.
Roedd adborth o’r gweithgareddau yn dangos ei lwyddiant, gyda’r mynychwyr wedi dweud:
“Sesiwn ardderchog, gyda nodau ac amcanion clir. Roedd wedi’i strwythuro’n dda ac wedi fy ysbrydoli i ddatblygu ymhellach y ddarpariaeth awtomeiddio sydd gennym yng Ngholeg Gŵyr Abertawe” – Gerard Morgan Tiwtor Coleg Gŵyr Abertawe.
“Sesiwn hynod addysgiadol ac ar y pwynt gydag arbenigwr yn eu maes yn arddangos sgiliau a thechnegau, yn ddefnyddiol iawn ac yn ddiddorol.”- Andrew Addis-Fuller, Hyfforddiant Cambrian.
“Roedd Val yn ddefnyddiol iawn yn dangos gwahanol adnoddau i helpu i addysgu fy myfyrwyr.” – Adam Thomas, Tiwtor NPTC.
Ar ôl blwyddyn hynod lwyddiannus ac yn ôl y galw poblogaidd, mae GwylSgiliau24 ar fin dychwelyd ym mis Hydref 2024. Bydd yr wythnos yn denu arbenigwyr o bob rhan o addysg a diwydiant i gyflwyno hyfforddiant ymarferol ar draws amrywiaeth o bynciau galwedigaethol i weithwyr proffesiynol ledled Cymru, gan arddangos ac ysbrydoli rhagoriaeth.
Gyda lansiad Gweithgynhyrchu Ychwanegion i bortffolio Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gyfer 2025, bydd GwylSgiliau24 yn cyflawni ei gweithdy cyntaf o fewn Gweithgynhyrchu Ychwanegion. Bydd y sesiwn dan arweiniad yr arbenigwr Bryn Jones, Rheolwr Hyfforddiant WorldSkills DU ac a gefnogir gan hyfforddwr AutoDesk, yn dod â’r hyn a ddysgwyd gan WorldSkills Lyon yn ôl ym mis Medi. Bydd y mynychwyr hefyd yn clywed gan aelod o Dîm WorldSkills y DU Oscar McNaughton.
Tra bydd ein gweithdy plastro yn cael ei redeg gan Keith Langton, arbenigwr diwydiant yn y grefft o blastro ffibrog. Gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn y fasnach, yn gweithio ar draws rhanbarthau rhyngwladol amrywiol, mae’n sesiwn na ddylid ei cholli.
Gyda ffocws ar ragoriaeth a chodi sgiliau, bydd y gweithdai yn canolbwyntio ar gysoni safonau â gofynion rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Datblygir y gweithdai i herio ac ymestyn tiwtoriaid, cyflogwyr ac aseswyr, gan alluogi dysgu yn ôl i’r gweithle gyda’r nod o gyflwyno rhagoriaeth i’r genhedlaeth nesaf o weithlu.
Bydd cyfuniad o hyfforddiant wyneb yn wyneb ochr yn ochr â darpariaeth o bell, gyda ffocws ar offer ac adnoddau ychwanegol i gefnogi’r ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r prosiect Ysbrydoli Sgiliau, drwy ymgysylltu â’r sector addysg, yn anelu at weld Cymru’n codi ei hansawdd mewn cystadlaethau ond hefyd yn gwella ei harferion addysgu i gefnogi gofynion gweithlu’r presennol a’r dyfodol.
I gofrestru eich diddordeb neu i ddysgu mwy am GwylSgiliau24 ewch i: https://inspiringskills.gov.wales/events.
I siarad â ni am ein cyfleoedd DPP a’n dull o wella addysgu a dysgu:
Ffôn: 01554 478199 / 07385 419 219
E-bost: info@inspiringskills.wales
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru>
More News Articles
« Gyrru i Lwyddo: Taith Arwen Rees — Ymunwch â phartneriaeth ymgyrch Wynnes Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith ym mis Medi »


