
Ymunwch â phartneriaeth ymgyrch Wynnes Addysg Oedolion y Sefydliad Dysgu a Gwaith ym mis Medi
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n rhoi cyfle arbennig i bobl gofleidio ail gyfle ar addysg a gwaith, gan arddangos effaith rymus dysgu gydol oes yng Nghymru. Bob blwyddyn mae’r ymgyrch yn ysbrydoli miloedd o bobl i fynychu digwyddiadau arbennig, cofrestru ar gyfer cyrsiau a gofyn am gyngor ac arweiniad ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt i gynyddu eu sgiliau, gwella eu hyder a’u lles, darganfod hobïau newydd a gwneud cysylltiadau newydd.
Mae’r ymgyrch hefyd yn dathlu llwyddiannau gwych pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o ddysgu a sgiliau.
Mae Dysgu a Gwaith yn croesawu sefydliadau ar draws llu o sectorau i gynllunio a chyflwyno gweithgaredd gyda ffocws ar gyfer wythnos yr ymgyrch (9-15 Medi) a thrwy gydol mis Medi. Mae enghreifftiau o’r gweithgareddau yn cynnwys sesiynau blasu ar-lein ac wyneb yn wyneb, cyrsiau byr, dyddiau agored, adnoddau, gwybodaeth a chyngor, a digwyddiadau arbennig i ddangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.
Cafodd llwyfan yr Wythnos Addysg Oedolion ei gynllunio i gynnal cynnwys dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb i gysylltu pobl gyda darpariaeth leol ar draws Cymru a thu hwnt. Y llynedd, roedd dros 600 rhestriad ar y llwyfan gan amrywiaeth o sefydliadau yn cynnwys y Brifysgol Agored yng Nghymru, Amgueddfa Cymru, Ymestyn yn Ehangach, UNISON, Canolfan Gwirfoddolwyr Caerdydd, darparwyr Dysgu Oedolion yn y Gymuned, TUC Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ac eraill.
Dewch yn bartner i’r ymgyrch, gan weithio gyda Dysgu a Gwaith i wneud dysgu gydol oes yn fwy hygyrch a gweladwy i oedolion ledled Cymru
Bydd eich cyfraniad at yr ymgyrch yn helpu i gynyddu effaith a phroffil addysg oedolion yng Nghymru, gan alluogi mwy o bobl i ddatblygu’r hyder i edrych am gyfleoedd newydd.
- Ehangu eich darpariaeth a hyrwyddo eich cyrsiau, dyddiau agored, digwyddiadau blasu ac adnoddau dysgu ar lwyfan yr Wythnos Addysg Oedolion yn rhad ac am ddim.
- Dylai darparwyr sy’n newydd i’r ymgyrch lenwi ffurflen rhanddeiliaid yr Wythnos Addysg Oedolion i gofrestru eu diddordeb. Gall darparwyr sydd wedi cofrestru eisoes fewngofnodi i’w cyfrif yma.
Mae mwy o wybodaeth ar sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch ar gael ar wefan Dysgu a Gwaith.
Cronfa Arloesedd:
Mae Dysgu a Gwaith wedi lansio Cronfa Arloesedd yr Wythnos Addysg Oedolion ar gyfer sefydliadau sy’n dymuno cyflwyno gweithgareddau yn wythnos yr ymgyrch a thrwy gydol mis Medi 2024.
Mae grantiau o hyd at £750 ar gael i sefydliadau sy’n gweithio yng Nghymru ac yn cyflwyno dysgu gydol oes. Bwriad y gronfa grantiau yw cefnogi creu sesiynau blasu wyneb yn wyneb, digwyddiadau dysgu, dyddiau agored, gweithgareddau maes, dosbarthiadau meistr, llais dysgwyr neu ddysgu fel teulu yn rhad ac am ddim.
Mae mwy o wybodaeth am y gronfa a dolenni i’r canllawiau a’r ffurflen gais ar gael ar wefan Dysgu a Gwaith.
Gallwch hefyd ymuno â’r gweithgaredd ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio hashnodau #dalatiiddysgu #wythnosaddysgoedolion a thagio L&W X, LinkedIn, Facebook, Instagram. Rhannwch straeon a digwyddiadau addysg oedolion a dathlu popeth sydd gan ddysgu i’w gynnig drwy gydol mis Medi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cyfrif darparydd Wythnos Addysg Oedolion neu os hoffech drafod gweithgaredd hyrwyddo ar y cyd, cysylltwch â Nisha Patel yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith: alwevents@learningandwork.org.uk. os gwelwch yn dda.
Caiff yr Wythnos Addysg Oedolion ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.
More News Articles
« Datblygu Rhagoriaeth GwylSgiliau24 — Siopau Cigydd – Cefnogi neu Golli »