Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru: Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar ei newydd wedd

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae COVID-19 wedi effeithio ar bawb ohonom gan newid ein ffordd o fyw a’n ffordd o weithio. Er gwaetha’r anawsterau, mae ein partneriaethau ledled Cymru wedi cryfhau ac rydym wedi llwyddo i addasu a datblygu ein dull gweithredu.
Ym mis Mawrth 2020, gwnaethom adduned i’r rhwydwaith ac i Lywodraeth Cymru y byddem yn dal ati i gynnal Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2020/21 – cyfres o gystadlaethau sgiliau galwedigaethol lleol ar gyfer prentisiaid a dysgwyr yng Nghymru.

Trwy gydweithio’n agos â’n partneriaid, rydym wedi llwyddo i drawsnewid y ffordd o gynnal Cystadleuaeth Sgiliau Cymru gan sicrhau bod y cystadleuwyr yn gallu cymryd rhan mewn ffordd sy’n ddiogel o ran COVID.

Bwriedir cynnal 56 o gystadlaethau rhwng 22 Chwefror 2021 a 23 Ebrill 2021. Trefnwyd bod modd cymryd rhan o bell mewn 30 o’r cystadlaethau hyn, gyda’r ymgeiswyr yn gallu cystadlu o’u cartrefi. Fodd bynnag, bydd angen defnyddio cyfleusterau ar safleoedd penodol yn y 26 cystadleuaeth arall, sydd yn y sectorau peirianneg, adeiladu a lletygarwch yn bennaf, er mwyn i’r gystadleuaeth fod yn effeithiol. Bwriedir cynnal y cystadlaethau hyn yng nghanolfannau astudio’r cystadleuwyr a bydd nifer o aelodau staff ledled Cymru’n defnyddio’r cystadlaethau fel dull asesu.

O ganlyniad i ymdrechion y sector addysg a hyfforddiant yng Nghymru, mae Tîm Cymru’n ymwneud mwy, o flwyddyn i flwyddyn, â Chystadlaethau Sgiliau yng Nghymru, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.

Cofrestrwyd dros 1200 yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2020/21 er ein bod yng nghanol pandemig COVID-19. Dyma gamp na allai prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru fod wedi’i chyflawni heb gefnogaeth barhaus darparwyr a chyflogwyr yng Nghymru.

Rydym yn ddiolchgar i lu o bartneriaid sy’n dal i gefnogi ein gwaith ac edrychwn ymlaen yn fawr at ddathlu llwyddiannau’r cystadleuwyr a’r staff mewn Dathliad digidol yn nes ymlaen eleni.

Mae WorldSkills UK am ddilyn yn ôl troed Cymru a chynnal eu cystadlaethau nhw eleni. Maen nhw, fel Cymru, wedi llunio cystadlaethau y gellir eu cynnal a’u hasesu yn effeithiol mewn ffordd sy’n ddiogel yn gyffredinol ac yn ddiogel o ran COVID.
Gellir cofrestru i gymryd rhan yn y cystadlaethau hyn rhwng 19 Ebrill ac 14 Mai 2021 trwy fynd i worldskillsuk.org.

inspiringskills.gov.wales/what-we-do?lang=cy

More News Articles

  —