
GŵylSgiliau 2025: DPP Ymarferol i Hybu Addysgu sy’n Seiliedig ar Sgiliau
Ydych chi’n chwilio am ffyrdd difyr o gynnwys dulliau dysgu sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant yn eich sesiynau chi?
Ym mis Hydref 2025, croesawn GŵylSgiliau yn ôl â dewis da o eitemau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) ar gyfer addysgwyr proffesiynol ledled Cymru.
Cynhelir y rhaglen trwy gydol misoedd Hydref a Thachwedd gyda gweithdai ymarferol i helpu tiwtoriaid a hyfforddwyr i:
- feithrin hyder gyda thechnolegau newydd.
- sicrhau bod yr hyn a gyflwynir yn cyfateb i safonau cyfredol y diwydiant.
- cefnogi dysgwyr fel y gallant lwyddo mewn cystadlaethau sgiliau.
O dan arweiniad Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, mae GŵylSgiliau yn rhan o’r rhaglen Datblygu Rhagoriaeth, sy’n helpu addysgwyr i gynnwys dysgu addas ar gyfer cystadlaethau yn eu gwaith bob-dydd. P’un bynnag a ydych wedi arfer paratoi dysgwyr i gystadlu a llwyddo neu beidio, byddwch yn siŵr o elwa.
Gallwch Gadw Lle mewn Sesiynau DPP Nawr
Dydd Mawrth 21 Hydref – Coleg Merthyr
Therapi Harddwch ac Ymarferydd
Canllawiau ymarferol ar safonau proffesiynol a thechnegau craidd, gydag arddangosiadau a chyfle i ymarfer mewn meysydd fel tylino, cwyro’r corff, a thriniaethau ewinedd. O dan arweiniad Hayley Huxtable, Rheolwr Hyfforddi, Therapi Harddwch.
Dydd Mercher 22 Hydref – PCYDDS Campws y Glannau SA1 (Adeilad IQ)
Gwaith Saer ac Asiedydd: Deall fformat newydd cyfunol y gystadleuaeth, yn cynnwys goddefiannau, asesu, ac arferion gorau.
Seiberddiogelwch: Cyfle i archwilio fframweithiau, dyfeisiau, a ffyrdd o gyflwyno gwaith ar gyfer cystadlaethau yn yr hyn a ddysgwch.
Awtomeiddio: Arweiniad ymarferol i systemau PLC, pŵer hylifol, a sgiliau System 4.0.
Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen: Cyfle i roi cynnig ar waith CAD-i-argraffu gydag Autodesk Fusion – dewch â’ch gliniadur.
Dydd Gwener 24 Hydref – Coleg Cambria: Campws Glannau Dyfrdwy a Choleg Gwent, Campws Crosskeys
Gosod Trydan (Glannau Dyfrdwy): Cyflwynir y sesiwn hon gan NICEIC a bydd yn edrych ar dechnolegau carbon isel – Paneli solar ffotofoltaig, EESS, gwefru cerbydau trydan – a’r rheoliadau allweddol.
Celf Gemau 3D (Crosskeys): Arddangosiadau dan arweiniad y diwydiant a llifoedd gwaith ym maes asedau mid-poly, gweadau, ac amgylcheddau, a chyfle i rwydweithio.
Dydd Mercher 29 Hydref – Campws Prifysgol Doncaster
Systemau Ynni Gwynt
Mae’r cwrs DPP hwn, sydd wedi’i ariannu’n llawn, yn cyflwyno’r diwydiant cynhyrchu ynni adnewyddadwy trwy systemau gwynt, gan ddefnyddio labordai ynni adnewyddadwy arbenigol UCDon. Bydd cyfle i gael profiad ymarferol o ffurfweddu a gweithredu tyrbinau, batris a gwrthdröyddion, ac archwilio gwaith cynllunio systemau, integreiddio, datrys problemau a dulliau addysgu.
Mae’r cwrs yn addas i ddarlithwyr, technegwyr a staff cwricwlwm mewn pynciau peirianyddol, trydanol ac amgylcheddol, yn ogystal â phobl sy’n ailhyfforddi mewn technolegau adnewyddadwy (Lefel 3–5 neu brofiad cyfatebol).
Tachwedd 2025 – Coleg Gwent, Campws Crosskeys
Colur Creadigol (Canolbwyntio ar Effeithiau Arbennig (SFX)
Cynhelir y sesiwn hon yn wythnos gyntaf Tachwedd (yr union ddyddiadau i’w cadarnhau), dan arweiniad Kirstie, Pennaeth Colur rhaglen Casualty y BBC. Bydd yn canolbwyntio ar brostheteg, paentio, effeithiau gwaed, a disgwyliadau wrth gystadlu. Nifer cyfyngedig o leoedd fydd ar gael i sicrhau profiad ymarferol da.
Pam Ddylech chi Ddod?
Mae pob sesiwn yn ymarferol, yn canolbwyntio ar y sector, ac yn ystyried gofynion cystadlaethau. Bydd cyfraniadau gan arbenigwyr yn y diwydiant, beirniaid cystadlaethau, ac addysgwyr profiadol. Byddwch yn gadael gyda dyfeisiau, strategaethau, a syniadau’n barod i’w defnyddio yn eich gwaith chi.
Cadwch Le
Mae galw mawr am nifer gyfyngedig o leoedd. Gall y lleoliadau newid yn dibynnu ar y nifer sy’n cofrestru. Mae cymorthdaliadau ar gael i bobl sy’n teithio dros 2.5 awr (Pob sesiwn ac eithrio Systemau Ynni Gwynt).
Cysylltwch ag Alex.summerbell@colegsirgar.ac.uk am fanylion.
Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru
More News Articles
« Prentisiaeth yn lansio gyrfa effeithiau arbennig yr enillydd gwobr Will — Stori Menter Pobyddion Ifanc »