Dysgwyr dau ddarparwr hyfforddiant yn ceisio clod yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK

Prentisiaid ACT, Maddie Groves (chwith) a Lauren Gunning a fydd yn cystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK.
Mae pump o ddysgwyr a hyfforddir gan ddau ddarparwr dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru yn paratoi i gystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK, a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf o 25 i 28 Tachwedd.
Bydd dros 400 o brentisiaid a dysgwyr dawnus o 47 o ddisgyblaethau – o beirianneg, technolegau digidol ac iechyd i letygarwch, adeiladu a’r diwydiannau creadigol – yn dod ynghyd mewn pum lleoliad ar gyfer prif gystadleuaeth sgiliau’r Deyrnas Unedig
Gallai rhai sy’n llwyddo o dan bwysau gael eu dewis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig ar y llwyfan rhyngwladol yn Japan yn 2028.
Bydd cynrychiolaeth gref o Gymru, gyda 120 o bobl ifanc o bob cwr o’r wlad wedi ennill eu lle ar ôl rhagori yn y rowndiau rhagbrofol. Bydd 29% o gystadleuwyr y rowndiau terfynol cenedlaethol yn dod o Gymru – hyd yn oed fwy na’r un o bob pedwar a gafwyd y llynedd.
Ymhlith y cystadleuwyr o Gymru mae Maddie Groves, 20 oed, a Lauren Gunning, 30 oed, prentisiaid AAT gydag ACT o Gaerdydd, a fydd yn cystadlu yn rownd derfynol tîm y Technegwyr Cyfrifeg.

Dysgwyr Itec (Sgiliau a Chyflogaeth) (o’r chwith) Yusuf Asif, Natalia Siwy a Mairah Taj a fydd yn cystadlu yn rownd derfynol genedlaethol Sgiliau Sylfaen: Menter.
Bydd Yusuf Asif, Natalia Siwy a Mairah Taj, dysgwyr Twf Swyddi Cymru yng Nghanolfan Itec (Sgiliau a Chyflogaeth) yng Nghaerdydd yn cystadlu yn rownd derfynol Sgiliau Sylfaen: Menter.
Erbyn hyn mae Mairah yn gweithio tuag at gymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro. Mae Maddie, sy’n gweithio i Green and Co, Cwmbran a Lauren, swyddog taith dysgwyr gydag ACT sy’n cefnogi prentisiaid AAT, yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Cyfrifeg Broffesiynol.
Byddant yn cystadlu dros ddau ddiwrnod yn yr Atriwm ym Mhrifysgol De Cymru, Caerdydd lle byddant yn cael briff yn cynnwys gwneud cyflwyniad a chyflawni tasg gyfrifeg.
Mae Lauren eisoes wedi cwblhau prentisiaethau AAT Lefelau 2 a 3 gan fod arni eisiau cael y wybodaeth i roi’r gefnogaeth orau i brentisiaid ar eu taith ddysgu.
Enillodd prentisiaid ACT fedal efydd yn rownd derfynol Technegwyr Cyfrifeg y llynedd ac mae’r tiwtor cyfrifeg Nerys Hiscocks o’r farn y gallai Maddie a Lauren ennill medal aur eleni.
“Dw i’n meddwl y gwnân nhw’n dda iawn achos mae ganddyn nhw berthynas hyfryd ac maen nhw’n gweithio’n dda gyda’i gilydd,” meddai Nerys. “Maen nhw’n ategu ei gilydd ac dw i’n hollol grediniol y gallan nhw ennill y fedal aur.”
Dywedodd Hannah Kane-Roberts, rheolwr Canolfan Caerdydd Itec (Sgiliau a Chyflogaeth), mai dyma’r tro cyntaf i ddysgwyr o’r cwmni gystadlu yn WorldSkills UK ac mae wrth ei bodd bod y tîm wedi cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol.
Mae Yusuf, Natalia a Mairah wedi bod yn cydweithio ar brosiect menter i greu nwyddau cynaliadwy o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu neu eu huwchgylchu. Yn y rownd derfynol, a gynhelir yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro ar 28 Tachwedd, byddant yn cyflwyno’r nwyddau ar stondin fasnach ac yn defnyddio adnoddau marchnata neu bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’u menter.
Byddant yn cyflwyno’r eitemau hyn fel pe baent mewn marchnad go iawn, gyda deunyddiau marchnata fel posteri neu bostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo’u menter. Trwy gydol y gweithgaredd, byddant yn gweithio fel tîm, gan ddangos creadigrwydd, proffesiynoldeb a doniau cyfathrebu a bydd y beirniaid yn ystyried dyluniad eu stondin, ansawdd a phrisiau’r nwyddau, eu gallu i ryngweithio â chwsmeriaid ac effeithiolrwydd eu gwaith marchnata.
“Maen nhw’n haeddu ennill achos maen nhw’n cydweithio’n dda, yn cyfathrebu’n effeithiol ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn wrth ddatblygu eu cynnyrch,” meddai Hannah.
“Mae ganddyn nhw syniad cryf ac maen nhw wedi llunio logo difyr. Rwy’n falch iawn o’r dysgwyr ac mae’n hollol wych eu bod wedi cyrraedd rowndiau terfynol y Deyrnas Unedig.”
Mae dysgwyr eraill o Gymru’n cael eu hannog i gychwyn eu taith i Rowndiau Terfynol WorldSkills UK 2026 trwy gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Gellir cofrestru i wneud hynny o 24 Tachwedd i 5 Rhagfyr yn inspiringskills.gov.wales
Mae Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, yn annog rhagor o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith a’u prentisiaid i gofrestru eleni.
“Dymunwn bob llwyddiant i’r pum dysgwr o ACT ac Itec (Sgiliau a Chyflogaeth) yn y rowndiau terfynol,” meddai Lisa. “Maen nhw’n batrwm ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith, ac yn ysbrydoli rhagor o ddysgwyr, prentisiaid, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant Cymru i gydnabod gwerth a manteision cystadlaethau sgiliau cenedlaethol, Ewropeaidd a byd-eang.”
Meddai Paul: “Mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu prentisiaid medrus ledled Cymru. Mae llawer o’u dysgwyr yn mynd ymlaen i lwyddo yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK ac, yn aml, yn cychwyn eu taith trwy Gystadleuaeth Sgiliau Cymru.
“Rwy’n annog rhagor o ddarparwyr a phrentisiaid i gymryd rhan eleni gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’r cystadlaethau hyn yn eu cynnig.”
More News Articles
« Seremoni Raddio ILM gan Talk Training 2025 — Aaron yn ysbrydoli a rhannu ei daith prentisiaeth mewn digwyddiad yn y canol ddinas »

