Buddsoddi i mewn i Gymru: Itec yn Dathlu Graddedigion Prentisiaeth 2026
English | Cymraeg

Chwith-Dde: Lis McClean AS, Ceri Murphy Cyfarwyddwr Rheoli Itec Sgiliau a Chyflogaeth a Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.
Wnaeth Itec dathlu llwyddiant ei graddedigion prentisiaeth 2026 mewn seremoni arbennig ar Fedi’r 3ydd, gan ddod a dysgwyr, cyflogwyr, partneriaid a chefnogwyr o bob cwr o Gymru at ei gilydd.
Wnaeth y digwyddiad nodi gwaith caled, gwytnwch ac ymroddiad prentisiaethau oedd wedi cwblhau eu rhaglenni’n llwyddiannus, a thynnodd o sylw at y rôl allweddol mae prentisiaethau yn chwarae trwy ddatblygu sgiliau, cefnogi busnesau a chryfhau’r economi Cymraeg.
Mynychwyd y seremoni gan Lis McLean AS, Aelod o Senedd Plaid Cymru dros Bontypridd, Cynon a Merthyr. Roedd ei phresenoldeb yn pwysleisio pwysigrwydd buddsoddi mewn prentisiaethau, dysgu gydol oes a datblygu sgiliau ledled Cymru.
Dywedodd Lis, “Roedd o’n arbennig i wylio gymaint o bobl yn graddio, roedd o’n fraint i fod yn rhan o’r filltir carreg bwysig yn eu bywydau. Mae digwyddiadau fel yma yn ein hatgoffa pa mor bwysig ydy hi i fuddsoddi i mewn i brentisiaethau, dysgu gydol oes a datblygiad sgiliau ledled Cymru.”
Rhoddodd Ceri Murphy Cyfarwyddwr Rheoli Itec clod i’r graddedigion am ei ymrwymiad a dyfalbarhad trwy gydol ei siwrneiau prentisiaeth. Dywedodd, “Mae heddiw yn nodi milltir carreg bwysig: llwyddiant chi am gwblhau eich prentisiaeth a’r adnabyddiaeth ffurfiol o’ch gwaith caled, ymrwymiad a gwytnwch. Mae eich prentisiaeth yn cynrychioli mwy na’r sgiliau rydych wedi datblygu; mae’n adlewyrchu eich medru i dyfu, addasu a dyfalbarhau.”
Wnaeth ein siaradwr gwadd Lisa Mytton Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru trafod am effaith hirdymor dysgu yn y gweithle ar unigolion, busnesau a chymunedau Cymru. Dywedodd Mytton, “Mae cymunedau yn buddsoddi o bobl yn adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn agos i adref.”
Wnaeth ei araith adlewyrchu pwysigrwydd buddsoddi mewn talent leol, helpu busnesau Cymraeg cael y gweithlu medrus maent yn haeddu yn ogystal â chreu cyfleoedd i bobl ffynnu yn eu cymunedau. Gan ddatblygu sgiliau a chefnogi cynnydd gyrfaol ledled Cymru, mae prentisiaethau yn chwarae rôl allweddol mewn adeiladu economi Cymraeg cryfach a llwyddiannus.
Daeth Leighton Channing Rheolwr Gweithredol EE a phersbectif cyflogwr i’r llwyfan. Dywedodd, “Mae persbectif ffres prentisiaethau yn hynod o werthfawr i ni. Nid ydynt o reidrwydd yn cael ei dal yn ôl gan y dywediad “Well, dyna’r ffordd rydym wedi wastad gwneud o”, maent yn cwestiynu ac yn herio’r arferol gan maent yn gweld pethau mewn ffordd wahanol. Felly, yn lle o rywun perffaith ar ddiwrnod cyflogi, bydd well gen i gyflogi rhywun gallem siapio.”
Rhannodd y siaradwr graddedig William Mainala ei siwrne ysbrydoledig o’i brentisiaethau Lefel 2 hyd at Lefel 5, myfyriodd o ar y gefnogaeth derbyniodd o drwy gydol ei brofiad dysgu. Dywedodd, “Rwy’n ddiolchgar i Itec a’r ddau aseswr wnaeth cymryd fi o Lefel 2 i Lefel 5. Wnaethoch chi herio fi mewn nifer o ffurf wahanol yn broffesiynol ac mae hynny wedi gwneud fi pwy ydw i heddiw.”
Roedd ei eiriau yn adlewyrchu’r rôl bwysig mae aseswyr, cyflogwyr a rhwydweithiau cefnogol yn chwarae mewn helpu prentisiaid sylweddoli potensial nhw a chynyddu yn eu gyrfaoedd.
Mae’r seremoni graddio yn adlewyrchu ymrwymiad parhaol Itec i gefnogi dysgwyr a chyflogwyr trwy raglenni prentisiaeth safon-uchel sy’n helpu unigolion i gyflawni eu huchelgeisiau yn ogystal â chryfhau’r gweithlu Cymreig.
Rydym ni fel Itec eisiau estyn ein llongyfarchiadau i’n graddedigion i gyd ar eu llwyddiant rhagorol, a hefyd rhoi diolch i’r cyflogwyr, partneriaid, siaradwyr gwedd a chydweithwyr am ei help yn gwneud y diwrnod yn un bythgofiadwy.
More News Articles
« Peidiwch Byth â Stopio Dysgu: Efallai bod y sgiliau sydd angen arnoch eisoes yn eich sefydliad — Llawer o gyfleoedd dysgu ar gael, am ddim, ledled Cymru ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion »

