Joe, y prentis, yn aelod allweddol o dîm purfa nicel yng Nghlydach

Postiwyd ar gan karen.smith

Apprentice Joe Lewis

Joe Lewis, y prentis

English | Cymraeg

Mae prentis o’r enw Joe Lewis eisoes yn aelod allweddol o’r tîm ym mhurfa nicel lwyddiannus Vale Europe Ltd yng Nghlydach, Cwm Tawe.

Mae Joe, 21 oed o Bort Talbot, yn gweithio yn nhîm caffael a storfeydd y cwmni gan gydweithio ag adrannau eraill i ddatblygu’r dulliau strategol a ddefnyddir yn y burfa i bennu targedau ar gyfer ei weithwyr.

Yn ogystal â chysoni model gwelliant parhaus gyda strategaeth y busnes, mae wedi defnyddio’i sgiliau a’i flaengarwch i gyflymu’r broses archebu a chyflenwi, mae wedi datblygu trefn sy’n olrhain hynt y prosiectau lefel uchel ac mae wedi gwella’r systemau archwilio stoc, olrhain anfonebau a rheoli contractau.

Mae Joe yn deall systemau technoleg gwybodaeth a meddalwedd yn dda iawn ac mae bob amser yn barod i helpu pobl eraill i ddatblygu eu sgiliau TG, yn enwedig ar lefel strategol.

Erbyn hyn, mae wedi’i gydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Ar ôl cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweinyddu Busnes gydag Acorn Learning Solutions ym mis Ebrill, mae Joe wedi symud ymlaen i ddilyn Prentisiaeth ac mae’n dal i ymdopi’n llwyddiannus ag unrhyw anawsterau sy’n ei wynebu.

Meddai Joe: “Mae fy mhrentisiaeth wedi fy helpu i fagu mwy o hyder fel y gallaf i gyrraedd fy nhargedau a gwneud gwaith mwy heriol. Rwy bob amser yn ceisio datblygu a gwella fy sgiliau a fy ngwybodaeth, trwy gymwysterau ffurfiol, dysgu seiliedig ar waith a dysgu gartref.”

Dywedodd Alun Thomas, rheolwr pwrcasu Vale Europe Ltd, ei fod yn rhagweld dyfodol disglair i Joe. Canmolodd ef am fod mor awyddus i ddysgu ac am ei sgiliau cadarn wrth ddadansoddi, datrys problemau a rheoli amser sy’n golygu ei fod wedi symud ymlaen yn sydyn iawn.

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Joe ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —