Rebecca’n goresgyn rhwystrau i gyrraedd ei nod

Postiwyd ar gan karen.smith

Rebecca Crook with Lauren Mills (left) of Torfaen Training and Jenine Gill, managing director of Little Inspirations Day Nursery.

Rebecca Crook gyda Lauren Mills (chwith) o Hyfforddiant Torfaen a Jenine Gill, rheolwr gyfarwyddwr Little Inspirations Day Nursery.

English | Cymraeg

Mae Rebecca Crook wedi goresgyn cyfres o rwystrau i sicrhau Prentisiaeth Uwch a chael dyrchafiad yn y feithrinfa lle mae’n gweithio.

Ar ôl iddi ddechrau ar Brentisiaeth Uwch mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant fe gaeodd y feithrinfa a’r darparwr hyfforddiant lle’r oedd yn wreiddiol.
Ond roedd Rebecca, 41, o Sain Tathan yn benderfynol o lwyddo.

Llwyddodd i gwblhau’r cymhwyster yn yr haf eleni gyda Hyfforddiant Torfaen ar ôl cael swydd newydd gyda Little Inspirations Day Nursery, y Barri. Roedd yn werth yr holl waith caled gan iddi gael ei dyrchafu’n rheolwr y feithrinfa.

Erbyn hyn, mae wedi’i chydnabod yn un o ddysgwyr gorau Cymru trwy gyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar 20 Hydref.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC a’u cefnogi gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau.

Mae 30 o ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu sydd wedi serennu mewn nifer o raglenni sgiliau llwyddiannus ledled Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r gwobrau’n arddangos ac yn dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Roedd Rebecca’n llawn canmoliaeth i’r gefnogaeth a gafodd gan Little Inspirations Day Nursery a Hyfforddiant Torfaen a gyflwynodd wobr Prentis Uwch y Flwyddyn iddi ym mis Mai.

Meddai: “Mae’r wobr wedi bod yn hwb mawr i’m hyder ac wedi rhoi’r awydd i mi barhau ar raglen ddysgu arall. O ganlyniad uniongyrchol i’r brentisiaeth, rwy’n llawer mwy hyderus yn fy ngwaith ac rwy’n credu bod yr wybodaeth rwy wedi’i dysgu wedi fy ngwneud yn rheolwr mwy effeithiol.

“Pan gollais i fy swydd, roeddwn i’n anhapus iawn fy mod wedi gorfod rhoi’r gorau i’r brentisiaeth ar ôl gwneud cymaint o ymdrech a gweithio mor galed. Bu’n her fawr ac rwy wedi cael boddhad rhyfeddol o lwyddo i ddod dros yr holl rwystrau.”

Dywedodd Jenine Gill, perchennog meithrinfa ddydd Little Inspirations, fod Rebecca yn batrwm ardderchog ar gyfer prentisiaid uwch gan iddi ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth y mae wedi’u dysgu i godi safonau yn y gwaith.

Wrth ganmol safon uchel yr ymgeiswyr eleni a llongyfarch Rebecca ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: “Mae’r rhai sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni yn cynnwys unigolion eithriadol sydd wedi rhagori yn eu gweithle, a darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi’r prentisiaid sy’n gweithio gyda nhw. Mae eu straeon bob amser yn rhyfeddol ac yn ysbrydoliaeth.

“Mae prentisiaethau a hyfforddiant sgiliau galwedigaethol yn rhan hanfodol o lwyddiant economaidd ac yn anhepgor er mwyn adeiladu Cymru sy’n gryfach, yn decach ac y fwy cyfartal.

“Mae’r gwobrau hyn yn llwyfan delfrydol ar gyfer dathlu llwyddiant a gwobrwyo gwaith caled ac ymroddiad dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant ledled Cymru. Dymuniadau gorau i bawb ar y noson.”

More News Articles

  —