Gyrfa ddifyr gydag Openreach o fewn cyrraedd i Joel y prentis

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Joel Mallison, gyrfa ddifyr o fewn cyrraedd.

Mae Joel Mallison, prentis a cherddor, wedi taro’r nodyn ar ei ben wrth newid gyrfa gan ei fod yn gwneud yn ardderchog fel prentis gyda chwmni telathrebu Openreach.

Ar ôl mynd i astudio cerddoriaeth a graddio gyda rhagoriaeth mewn Cynhyrchu ar gyfer y Radio, bu Joel, 30, o’r Fenni, yn gweithio ym musnes paentio ac addurno ei dad am chwe blynedd cyn penderfynu newid gyrfa.

Gan fod ganddo ddiddordeb mewn telathrebu, aeth at Openreach a chwblhau Prentisiaeth Sylfaen ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol mewn TG, Meddalwedd, y We a Thelathrebu fis Medi diwethaf. Darparwyd y brentisiaeth gan Openreach a’i chefnogi gan ALS Training, Caerdydd.

Yn awr, mae Joel wedi cyrraedd rhestr fer gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Mae gyrfa Joel yn datblygu’n gyflym. Mae’n gweithio i safon uchel ac yn frwd iawn dros ddysgu sgiliau newydd sy’n golygu ei fod yn gallu atgyweirio diffygion cymhleth a hyfforddi gweithwyr yn Openreach ar yr un pryd. Mae’n nod ganddo ddod yn uwch-beiriannydd, fel ei fentor gyda’r cwmni.

“Un o’r prif bethau oedd yn apelio ata i am Raglen Brentisiaethau Openreach oedd y cyfle i gael gyrfa a allai roi boddhad go iawn i mi a swydd ddiogel,” meddai Joel, sy’n brif ganwr ac yn gitarydd mewn band yn ei amser hamdden.

“Rwy’n teimlo bod telathrebu’n bwysig iawn ar gyfer y dyfodol, fel yr ydym wedi’i weld yn ystod pandemig Covid. Trwy’r Rhaglen Brentisiaethau, rwy wedi llwyddo i lansio fy ngyrfa fy hunan a hybu gyrfaoedd pobl eraill trwy eu hyfforddi.”

Un o’r tasgau sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf i Joel hyd yma oedd gweithio am 10 awr, gan ddefnyddio’r holl sgiliau a ddysgodd fel prentis, i atgyweirio cabinet o ffibrau oedd wedi’u difrodi, er mwyn adfer gwasanaeth band eang dros 100 o gwsmeriaid, llawer ohonynt yn weithwyr allweddol.

Dywedodd rheolwr bro Openreach yn ardal y Fenni, Matthew James: “Mae Joel yn gydwybodol iawn ac mae’n chwilio’n barhaus am ffyrdd o ehangu ei wybodaeth a’i sgiliau trwy fod yn chwilfrydig ac yn awyddus i weithio. Ar ôl gweithio gyda Joel, mae fy nisgwyliadau ar gyfer fy mheirianwyr yn uchel iawn.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —