Jonathan Davies, OBE yn cyflwyno sesiynau fel rhan o Ddiwrnod Agored Rhithiol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Jonathan Davies, OBE

Yn ystod y mis, bydd awdurdodau lleol Cymru, ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn cynnal cyfres o Ddiwrnodau Agored Rhithiol am y tro cyntaf erioed ar gyfer disgyblion Blwyddyn 11.

Jonathan Davies OBE fydd yn cyflwyno’r sesiynau ar brentisiaethau a hyfforddeiaethau a bydd wrth law i dderbyn cwestiynau ar sut i wneud cais a sut i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd hyfforddi a drefnir gan ddiwydiant. Bydd y sesiynau am Hyfforddeiaethau’n dechrau am 3.0pm a’r rhai am Brentisiaethau wedyn am 4.0pm. Caiff sesiynau eraill eu harwain gan Gyrfa Cymru, colegau ac awdurdodau lleol.

Mae pandemig COVID-19 nid yn unig wedi golygu toriad yn addysg myfyrwyr, ond hefyd canslo llawer o ddigwyddiadau a drefnwyd, fel diwrnodau agored a oedd i fod i gael eu cynnal trwy gydol yr haf.

Mae diwrnodau agored yn ffyrdd hanfodol o helpu disgyblion Blwyddyn 11 i ddeall eu holl opsiynau ar gyfer parhau â’u haddysg a phenderfynu ar y llwybr cywir ar eu cyfer. Dyma hefyd y ffordd y mae disgyblion yn creu cysylltiadau â phobl newydd a gwahanol amgylcheddau i’w helpu i wneud eu penderfyniad.

Beth yw diwrnod agored rhithiol?
A hwythau wedi’u trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cynnal gan Cymru’n Gweithio, bydd y Diwrnodau Agored Rhithiol yn galluogi pobl ifanc ledled Cymru i ddarganfod yr opsiynau ar gyfer symud ymlaen â’u haddysg yn eu hardal. Cânt wybod pa gyrsiau ysgol a choleg sydd ar gael, ynghyd â chyfleoedd hyfforddi fel prentisiaethau a hyfforddeiaethau, a chyfle i gael cyngor gyrfaoedd gan Gyrfa Cymru.

Pryd y cynhelir y diwrnodau agored rhithiol?
Cynhelir sesiynau byw ar gyfer pob rhanbarth ledled Cymru rhwng 7 a 10 Gorffennaf, gyda digonedd o gynnwys ychwanegol ar gael trwy gydol ail wythnos Gorffennaf a thu hwnt. Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i gynghorwyr gyrfaoedd lleol a darparwyr addysg sy’n gwybod am y ddarpariaeth yn eich ardal chi.

Does gen i ddim cysylltiad â’r rhyngrwyd. Sut allaf i gymryd rhan?
Bydd y Diwrnodau Agored Rhithiol yn cael eu cynnal ar-lein, ond bydd rhai sydd heb gysylltiad â’r rhyngrwyd gartref yn cael ffonio a siarad yn uniongyrchol ag ysgolion, colegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth am yr holl Ddiwrnodau Agored Rhithiol ar Cymru’n Gweithio, ynghyd â dolenni i wefannau a chynnwys partneriaid. Bydd yna hefyd gyngor i’r myfyrwyr hynny sy’n ansicr o’r hyn y maent am ei wneud nesaf.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg: “Nawr yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bod gan bobl ifanc y sgiliau, y wybodaeth a’r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ddod o hyd i waith boddhaus.
 
“Os ydych chi’n berson ifanc, efallai eich bod chi’n ansicr beth rydych am ei wneud ar ôl gadael yr ysgol, neu a ydych chi am barhau mewn addysg o gwbl. Gall diwrnodau agored chwarae rhan hanfodol wrth helpu i ddewis yr addysg neu’r hyfforddiant cywir, gan roi cipolwg gwerthfawr ar y gwahanol gyrsiau a’r ffyrdd o ddysgu sydd ar gael i bobl ifanc sy’n ystyried eu hopsiynau nesaf.
 
“Mae diwrnodau agored rhithiol yn ffordd wirioneddol arloesol o archwilio opsiynau’n ddigidol a byddant yn helpu pobl ifanc i benderfynu beth i’w wneud nesaf. P’un ai ydych chi’n gwarchod eich hun gartref, yn dychwelyd i’r ysgol i ffarwelio am yr haf, neu ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf, bydd ein diwrnodau agored rhithiol cenedlaethol yn sicrhau bod dysgwyr ym mhob rhanbarth o Gymru yn cael cyfle i ymgysylltu a gofyn cwestiynau ar yr amser pwysig hwn.”

Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru: “Mae penderfynu beth yw’r cam nesaf gyda’ch addysg yn amser pwysig i bobl ifanc ledled Cymru ac rydym am sicrhau eu bod yn dal i allu archwilio’r gwahanol opsiynau sydd ar gael.

“Yn ystod y pedwar diwrnod byddwn yn cynnig cefnogaeth ychwanegol gan ein cynghorwyr gyrfaoedd arbenigol a fydd ar gael trwy ein sgwrs we fyw. Bydd hyn yn galluogi pobl ifanc sydd ddim yn siŵr beth yw’r cam nesaf i gael y cyngor a’r arweiniad angenrheidiol.”

I ddarganfod mwy am Ddiwrnodau Agored Rhithiol Cymru, ffoniwch Cymru’n Gweithio ar 0800 028 4844 neu ewch i cymrungweithio.llyw.cymru/dechrau-dy-stori

More News Articles

  —