Dafydd yn parhau â’i daith ddysgu yn ystod y pandemig

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Dafydd Eryl

Mae Dafydd Eryl o Gaernarfon yn gwneud prentisiaeth Arwain Gweithgareddau Lefel 2 gyda’r Urdd yn ardal Eryri. Mae ganddo angerdd tuag at chwaraeon, a felly roedd yr opsiwn o wneud prentisiaeth yn y maes hwn yn berffaith iddo.

Mae Dafydd yn falch iawn ei fod yn medru parhau gyda’i brentisiaeth er gwaethaf y pandemig. Dywedodd, ‘yn amlwg oherwydd COVID-19, ‘da ni methu mynd i’r gwaith ac yn gweithio o adref. Fel prentis, mae na ddigon o waith cwrs ‘da ni angen cwblhau, felly i ni, mae hwn yn gyfle gwych i fanteisio arno, a chwblhau’r gwaith yma.’

Mae’r Urdd yn sicrhau bod gan ei prentisiaid digon o waith a phrosiectau gwahanol i’w cadw’n brysur drwy gydol y cyfnod yma. Mae staff yr Adran Prentisiaethau mewn cyswllt gyson â’i holl prentisiaid er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth sydd angen arnynt.

Dywedodd ei asesydd, Ffion Evans, ‘Rydym yn cyfathrebu’n ddyddiol ac mae Dafydd yn gweithio’n galed i sicrhau fod yn deall pob elfen o’i waith cwrs, yn ogystal â hyn mae’n cymryd y cam ychwanegol i wneud cyrsiau ychwanegol i ehangu ei ddealltwriaeth o’r sector. Mae Dafydd yn brentis arbennig o dda, sydd wedi datblygu nifer o sgiliau ar y cynllun yma, a sgiliau fydd yn drosglwyddadwy i’r byd gwaith.’

Diolch i dechnoleg, mae prentisiaid yr Urdd hefyd yn medru cwblhau cyrsiau a dysgu ychwanegol ar-lein. Dywedodd Dafydd ‘Fel prentis gyda’r Urdd, ni’n cael cyfle i fynd ar gyrsiau gwahanol bob mis, ac mae hyn yn dal i fod yn bosib yn ystod y cyfnod yma, gyda chyrsiau yn cael ei gynnal dros y we fel cwrs Prevent a chwrs Rheoli Ymddygiad.’

Yn ogystal â hyn, mae staff yr Urdd wedi ymuno â’r ffasiwn diweddar o gynnal cwisiau wythnosol. ‘Mae ein cwisiau wythnosol yn roi’r cyfle i ni gyd i gael bach o hwyl dros y we ac i gadw mewn cysylltiad gyda phawb dros y cyfnod yma,’ dywedodd Dafydd.

Mae Dafydd wedi manteisio ar y cyfnod yma, drwy wneud pethau nad oedd ganddo amser i wneud fel arfer. Dywedodd Dafydd, ‘I mi yn bersonol, dwi wedi bod yn ceisio manteisio ar y cyfnod yma drwy fynd am jog bob dydd a gwneud y mwyaf o’r haul. Ar ben hyn, dwi ‘di bod yn ceisio dysgu sgiliau newydd gan fod gennyf ddigon o amser i wneud hyn fel dysgu gitâr!’

Dywedodd Catrin Davis, rheolwr yr Adran Prentisiaethau: ‘Mae Dafydd yn llysgennad arbennig i’m cynllun prentisiaethau. Mae wedi datblygu ei hyder, sgiliau a’i dealltwriaeth yn ystod y cynllun. Uchafbwynt oedd gweld Dafydd yn siarad yn gyhoeddus yn ystod cynhadledd NUS Cymru. Y tro cyntaf i un o’m brentisiaid mynychu! Dyma berson ifanc sydd â phecyn llawn o sgiliau angenrheidiol i lwyddo yn y byd gwaith.’

Urdd Gobaith Cymru

More News Articles

  —