Ydych chi’n adnabod oedolyn sy’n ysbrydoli y mae ei stori o dwf personol drwy addysg oedolion yn haeddu cael ei rhannu? Neu brosiect cymunedol sy’n chwalu rhwystrau a chreu llwybrau newydd i lwyddiant?
Mae’r gwobrau blynyddol, a gaiff eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, yn dathlu grym trawsnewidiol dysgu gydol oes ar draws Cymru, gan ddangos pam ei bod yn fwy hanfodol nag erioed i fuddsoddi mewn cyfleoedd sy’n newid bywydau.
Mae Dysgu a Gwaith yn croesawu enwebiadau sy’n rhoi sylw i unigolion a phrosiectau cymunedol eithriadol sy’n enghraifft o angerdd, ymroddiad ac egni i wella eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill drwy addysg. P’un ai’n cynrychioli taith bersonol neu ymdrech ar y cyd, mae’r gwobrau hyn yn codi ymwybyddiaeth ac yn dathlu’r straeon sy’n diffinio ysbryd dysgu gydol oes yng Nghymru.
Categorïau gwobrau
Mae’r deg categori yn cynrychioli’r amrywiaeth eang o sgiliau a llwyddiannau a gaiff eu dathlu gan y gwobrau:
Gwobr Sgiliau Gwaith
Gwobr Oedolyn Ifanc
Gwobr Newid Bywyd
Gwobr Sgiliau Hanfodol Bywyd
Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd
Gwobr Heneiddio’n Dda
Gwobr Siaradwr Newydd
Gwobr Rhannu Dyfodo
Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
Gwobr Llais Dysgwyr
Cael eich ysbrydoli:
Edrychwch ar enillwyr y llynedd i weld yr effaith a gafodd dysgu gydol oes ar ein cymunedau.
Gwybodaeth allweddol:
Caiff Gwobrau Ysbrydoli! eu dathlu fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion, mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cau enwebiadau: Dydd Gwener 17 Ebrill 2026.
Sut i wneud cais: Mae canllawiau ar gategorïau, awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu enwebiad llwyddiannus a ffurflenni enwebu ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Cysylltu â ni: Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Wobrau Ysbrydoli! anfonwch e-bost at: inspire@learningandwork.org.uk.