Confensiwn Cyflogaeth a Sgiliau Cymru: Symud ymlaen mewn cyfnod o newid

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Dewch i ymuno â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) yng Nghonfensiwn blynyddol Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ar 13 Tachwedd 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Noddir yr achlysur gan City & Guilds a’i gefnogi gan Serco a Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru. Bydd yn dwyn llunwyr polisi, ymarferwyr ac arweinwyr y sector yng Nghymru ynghyd i helpu i rannu’r syniadau, yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf ac i ddylanwadu ar bolisi’r dyfodol.

Cewch weld sut mae tueddiadau byd-eang fel y symudiad tuag at economi carbon isel, y cynnydd mewn AI ac awtomeiddio, a gweithlu sy’n heneiddio yn effeithio ar sefyllfa cyflogaeth yng Nghymru. Ymunwch ag L&W i archwilio strategaethau ar gyfer sicrhau bod gweithlu Cymru’n dal yn gystadleuol ac yn wydn yn y cyfnod hwn o drawsnewid.

Bydd y Confensiwn yn canolbwyntio ar bynciau amrywiol, yn cynnwys:

  • Deallusrwydd Artiffisial – cyfle neu fygythiad
  • Sero Net – beth mae’n ei olygu ar gyfer cyflogaeth a sgiliau
  • Datganoli polisi cymorth cyflogaeth i Gymru
  • Dyfodol Sgiliau Cymru

Ymhlith y siaradwyr eleni mae Simon Pirotte, Prif Weithredwr, Medr, Shavannah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, yr Athro Calvin Jones, Prifysgol Caerdydd, Stephen Evans, Prif Weithredwr, y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Ymunwch ag L&W am gyfres o weithdai llawn gwybodaeth i fynd i’r afael â phynciau allweddol:

  • Y bwlch o ran cyfranogi mewn dysgu yng Nghymru
  • Strategaeth gyflogaeth Llywodraeth Cymru ar Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach
  • Beth mae bargen newydd i bobl sy’n gweithio yn ei olygu i Gymru?
  • Gwersi a ddysgwyd o’r Ffindir ar addysg alwedigaethol

Bydd cyfle i wrando ar y prif siaradwyr a’r panelwyr ac i rwydweithio â chynrychiolwyr o’r sectorau cyflogaeth a sgiliau. Cewch wybod am yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf sy’n siapio maes polisi yng Nghymru a chyfrannu’ch syniadau i lywio ei gyfeiriad yn y dyfodol.

Ffi ar gyfer yr achlysur:
Y sector Cyhoeddus/Preifat – £195 a TAW
Y sector Gwirfoddol/Cymunedol / Cefnogwr L&W – £100 a TAW

Dilynwch y ddolen i gofrestru:
sefydliaddysguagwaith.cymru/confensiwn-cyflogaeth-a-sgiliau-cymru

Sefydliad Dysgu a Gwaith

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —