Lauren yn batrwm i eraill ac yn llysgennad dros brentisiaethau cyfrwng Cymraeg

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Lauren Richards – rhagori ar ei thargedau.

Lauren Richards – rhagori ar ei thargedau.

Daeth Lauren Richards, 20 oed, yn batrwm i eraill ac yn llysgennad dros Urdd Gobaith Cymru, dros brentisiaethau cyfrwng Cymraeg a thros annog plant a phobl ifanc yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr i wneud mwy o ymarfer corff.

Prentis Datblygu Chwaraeon gyda’r Urdd, yn datblygu cyfleoedd ym maes chwaraeon ar gyfer plant a phobl ifanc, yw Lauren sy’n byw ym Maesteg. Mae eisoes wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Arwain Gweithgareddau a nifer o gymwysterau ym maes chwaraeon.

Yn awr, mae Lauren wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Ar ôl gwneud tair Lefel A a’r Fagloriaeth Gymreig yn yr ysgol, dewisodd Lauren wneud prentisiaeth er mwyn ennill cyflog wrth ddysgu ac mae wrth ei bodd o gael swydd mor amrywiol ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a nifer cyrff llywodraethol Cenedlaethol chwaraeon.

Mae’n arwain ac yn trefnu gweithgareddau gwyliau i dros 40 o blant y dydd ac yn rhedeg prosiect i ferched yn ei hen ysgol, Ysgol Gyfun Llangynwyd, i geisio cael merched ym Mhen-y-bont i wneud mwy o ymarfer corff.

Yn ddiweddar, cafodd swydd gyda’r Urdd i ddatblygu rhagor o gyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc yr ardal. O ganlyniad i’w gwaith mae dros 450 o blant a phobl ifanc yn cadw’n heini neu’n actif mewn sesiynau wythnosol trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd wedi helpu i sefydlu chwe chlwb cymunedol Cymraeg newydd.

Roedd Lauren yn aelod o banel lansio ymgyrch ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru gyda chyn-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, a’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a bu ar y rhaglen ‘Prynhawn Da’ ar S4C.

“Rwy’n credu fy mod yn llysgennad da dros brentisiaethau, y sector chwaraeon a’r Urdd ac rwy’n teimlo fy mod i wedi rhoi hwb i hyder y merched rwy’n gweithio gyda nhw,” meddai Lauren. “Rwy wedi rhagori ar y targedau ar gyfer cael pobl i wneud ymarfer corff yn yr ardal ac rwy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau i’w paratoi i fynd i brifysgol neu i fyd gwaith.”

Wrth longyfarch Lauren ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —