Enwebwch unigolyn neu gymuned ar gyfer Gwobr Ysbrydoli!

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Ydych chi’n adnabod dysgwr sy’n ysbrydoli y mae eu stori o dwf personol drwy ddysgu gydol oes yn haeddu cael ei rhannu? Neu brosiect cymunedol sy’n chwalu rhwystrau i ddysgu a chreu llwybrau i lwyddiant?

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) yn galw am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion.

Mae’r gwobrau hyn yn dathlu effaith dysgu gydol oes yng Nghymru ac yn arddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd sy’n newid bywyd i bawb.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd enwebiadau ar gyfer unigolion a phrosiectau cymunedol eithriadol sy’n arddangos angerdd, ymroddiad ac egni i wella eu hunain a’u cymuned drwy ddysgu gydol oes.

Rhannwch eich straeon gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith ar gyfer gwobrau eleni.

Mae deg categori sy’n adlewyrchu ystod eang o ddysgu a sgiliau:

  • Gwobr Sgiliau Gwaith
  • Gwobr Oedolyn Ifanc
  • Gwobr Newid Bywyd
  • Gwobr Sgiliau Hanfodol Bywyd
  • Gwobr Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell
  • Gwobr Heneiddio’n Dda
  • Gwobr Siaradwr Cymraeg Newydd
  • Gwobr Rhannu Dyfodol
  • Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol
  • Gwobr Llais Dysgwyr (NEWYDD ar gyfer 2025)

Peidiwch â cholli categori newydd eleni: Gwobr Llais Dysgwyr
Mae Dysgu a Gwaith yn falch i gyflwyno gwobr arbennig lle bydd panel Llais Dysgwyr yn dewis yr enillydd. Byddant yn edrych am unigolyn a ddefnyddiodd eu profiad dysgu i ysbrydoli a gyrru newid cadarnhaol wrth ddarparu addysg oedolion. Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolion sy’n cyfrannu at ddatblygu dysgu gydol oes drwy rannu gwybodaeth, dynodi meysydd ar gyfer eu gwella a hwyluso mynediad i gyfleoedd dysgu. Gallai’r enillydd fod yn eiriolydd cenedlaethol neu leol sy’n weithgar yn eu cymuned, mentor neu unrhyw un sy’n defnyddio eu profiadau dysgu i sbarduno newid cadarnhaol mewn darpariaeth addysg oedolion. Os yw hyn yn swnio fel rhywun yr ydych chi’n ei adnabod, enwebwch nhw heddiw.

Edrychwch ar straeon enillwyr y llynedd sy’n arddangos buddion amlwg dysgu gydol oes.

Caiff y Gwobrau Ysbrydoli eu dathlu fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.

Mae gwybodaeth bellach am y gwobrau a dolenni i’r canllawiau a’r ffurflen enwebu ar gael ar wefan y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau – dydd Llun 14 Ebrill 2025.

Os hoffech siarad gyda rhywun am y gwobrau, mae croeso i chi anfon e-bost yn uniongyrchol at y Sefydliad Dysgu a Gwaith: inspire@learningandwork.org.uk.

Caiff Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Sefydliad Dysgu a Gwaith

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —