Lisa’n benderfynol o sicrhau bod prentisiaethau’n dal yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol newydd yr NTfW.

Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol newydd yr NTfW.

Mae ffederasiwn o 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru wedi penodi cyfarwyddwr strategol newydd i gydweithio’n agos â Senedd Cymru er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n dal i roi blaenoriaeth i brentisiaethau.

A hithau wedi bod yn brentis, bu Lisa Mytton, o Ferthyr Tudful, yn gweithio yn y sector dysgu seiliedig ar waith ers 25 mlynedd ac mae hefyd yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful lle bu’n arweinydd am gyfnod.

Wrth sôn am ei phenodiad i Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), dywedodd: “Mae cymryd y swydd newydd hon yn gam cyffrous gan fy mod yn credu’n gryf mewn prentisiaethau ac yn dal yn eiriolwr dros bobl ifanc ar Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.

“Es i’n brentis asiant teithio yn 16 oed ac roedd hynny’n help i mi ddod yn rheolwr yn 19 oed a mynd ymlaen i Brentisiaeth Uwch, Gradd mewn Addysg a Thystysgrif Broffesiynol i Raddedigion.

“Y weledigaeth sydd gen i yw sicrhau bod gan yr NTfW lais a sedd o gwmpas y bwrdd pan fydd penderfyniadau polisi’n cael eu gwneud am brentisiaethau. Fy nhasg i yw dylanwadu ar lunwyr polisïau trwy gyflwyno safbwyntiau gwybodus ar bob mater sy’n ymwneud â phrentisiaethau ar lefel strategol.

“Mae deiliaid contractau ac is-gontractwyr prentisiaethau NTfW yn pontio’r bwlch rhwng addysg a diwydiant drwy roi’r cyfle i bobl ddilyn rhaglenni galwedigaethol o safon uchel. Gall y rhain baratoi pobl ifanc i gyfrannu at lwyddiant busnes neu uwchsgilio’r gweithlu presennol.”

Roedd Lisa, a fu’n bennaeth ansawdd gyda’r darparwr hyfforddiant ALS Training a’i ragflaenydd Acorn Learning Solutions, yn canmol Llywodraeth Cymru am flaenoriaethu cyllid ar gyfer prentisiaethau am sawl blwyddyn.

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod hyn yn dal i ddigwydd a bod prentisiaethau’n cael yr un parch â llwybrau eraill,” meddai. “Mae prentisiaethau’n darparu’r sgiliau a’r arloesedd i dyfu’r economi a dyna sydd arnon ni ei angen wrth i’r wlad ddod dros y pandemig. Rydyn ni’n gweld llawer o fusnesau’n galw am bobl fedrus.

“Mae cyfleoedd gwych ar gael ar gyfer prentisiaethau, hyd at lefel gradd. Mae angen inni wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth pobl o brentisiaethau a’r lles maen nhw’n ei wneud i fywydau a busnesau.

“Mae prentisiaethau’n hanfodol i economi Cymru ac mae’n bwysig bod unigolion a busnesau’n cael y cyfle i fanteisio ar y rhaglenni hyn.”

Un o dasgau Lisa fydd craffu ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), wrth iddo fynd drwy Senedd Cymru, gyda’r cam nesaf i ddigwydd ym mis Medi.

Bydd y Bil yn arwain at greu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i reoli’r holl addysg a hyfforddiant ôl-16 gan ddarparu ar gyfer diddymu Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Hi yw’r Maer ieuengaf a gafwyd erioed ym Merthyr Tudful, pan oedd yn ddim ond 41 oed, a hi yw’r fenyw sydd wedi gwasanaethu hiraf ar y cyngor – cafodd ei hethol 14 blynedd yn ôl.

Wrth groesawu Lisa i’w swydd newydd yn yr NTfW, dywedodd y cadeirydd, John Nash: “Bydd gwybodaeth a phrofiad Lisa yn y sector dysgu seiliedig ar waith yn amhrisiadwy wrth fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg a hyfforddiant ôl-16. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â hi.”

More News Articles

  —