Dathlu tiwtoriaid eithriadol Cymru mewn seremoni swmpus yn y Senedd

Tiwtoriaid a John Griffiths AS (ar y dde), a gafodd eu cydnabod yng Ngwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026.
Cafodd cyfraniad hanfodol tiwtoriaid i Addysg Uwch ac Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Chymraeg i Oedolion ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo flynyddol a gynhaliwyd yn y Senedd, Caerdydd nos Fawrth.
Anrhydeddwyd chwe tiwtor o Gymru am eu gwaith rhagorol wrth i’w llwyddiannau gael eu dathlu yn seremoni Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026.
Caiff tiwtoriaid eu gwobrwyo am eu gwaith mewn Addysg Uwch, Addysg Bellach, gweithleoedd, Addysg Gymunedol a Cymraeg i Oedolion.
Cafodd John Griffiths, AS Llafur Dwyrain Casnewydd a noddodd y digwyddiad yn y Senedd, wobr hefyd am ei gyfraniad eithriadol i ddysgu gydol oes.
Bydd yn ymddeol fel AS ar 7 Mai ar ôl gwasanaethu’r Senedd ers ei ffurfio yn 1999, yn cynnwys mewn swyddi fel gweinidog a chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Addysg Bellach a Sgiliau.
Canmolodd diwtoriaid am helpu dysgwyr i ddatblygu’r sgiliau maent eu hangen i sicrhau swyddi safon uchel i gefnogi economi Cymru a chydlyniaeth y gymuned.
“Mae Cymru yn dymuno bod yn genedl dysgu gydol oed a thiwtoriaid, dysgwyr a sefydliadau gwych sy’n gwneud hynny’n bosibl,” meddai. Mae’r gwobrau hyn mor bwysig wrth gydnabod yr holl ansawdd, gwerth a llwyddiant.
Caiff eu gwobrau eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a maent yn cydnabod tiwtoriaid eithriadol a aiff yr ail filltir i rymuso oedolion sy’n ddysgwyr, trawsnewid bywydau a chryfhau cymunedau.
Roedd enillwyr y gwobrau yn cynnwys Ruth Lloyd o Lanwrtyd, sy’n diwtor Cymraeg Gwaith. Mae’n gweithio i Dysgu Cymraeg Morgannwg, a gaiff ei redeg gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Mae’n addysgu yn y gweithle o lefel Mynediad i Uwch, gan ddefnyddio sgiliau a enillodd fel athrawes mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn gynharach yn ei gyrfa.
Daw dau enillydd o Goleg Gŵyr Abertawe. Mae Connie Henry yn Ymarferydd Sgiliau Hanfodol Cymru a Mentor Cymheiriaid Digidol sy’n cefnogi dysgwyr ac addysgwyr o bob rhan o’r byd i ddeall a rhoi arloesedd digidol ar waith mewn ffyrdd sy’n wirioneddol yn gweithio iddynt.
Mae Rabya Kadhim, Tiwtor a Mentor Addysg Bellach ac Addysg Uwch, wedi arloesi gyda datblygu a gweithredu rhaglenni Peirianneg Drydanol ac Electronig a Pheirianneg Fecanyddol i ateb y newidiadau yn anghenion diwydiant, ar ôl ymgynghori yn eang gyda dysgwyr, cyflogwyr, partneriaid prifysgol a chyrff dyfarnu.
Mae’r tiwtor a’r mentor Sarah Cocchiara-Devine, sy’n arwain Rhaglen Addysg Bellach Media Academy Cymru, yn trawsnewid bywydau ac yn ehangu mynediad i ddysgu gydol oes ledled Cymru. Mae’n addysgu pynciau Cyfryngau Creadigol i 120 o oedolion y flwyddyn, rhai ohonynt wedi profi rhwystrau sylweddol i addysg.
Cafodd dau diwtor gymeradwyaeth uchel – Dr Joanne Prescott sy’n Uwch Ddarlithydd mewn Troseddeg a Phlismona ym Mhrifysgol Wrecsam a Christopher Roberts o Goleg Penybont, sy’n ddarlithydd mathemateg Dysgu Oedolion yn Gymuned.
Daeth addysg uwch yn llwybr yn ôl i gyflogaeth i Joanne gan roi gobaith iddi yn dilyn llawdriniaeth i drawsblannu dwy ysgyfaint, a achubodd ei bywyd yn 2011. Mae wedi ymroi ei gyrfa i sicrhau y gall dysgwyr gael mynediad i’r un cyfleoedd addysg sydd wedi trawsnewid ei bywyd.
Mae Christopher yn gyrru arloesedd yn gyson i drawsnewid y ffordd mae’n cyflwyno gwersi i ateb anghenion a gofynion y gymuned. Gan ddatblygu partneriaethau gydag Ysgolion Uwchradd Bryntirion, Porthcawl a Phencoed, mae’n rhedeg dosbarthiadau Mathemateg ar gyfer Rhieni sydd o fudd i unigolion a hefyd eu teuluoedd a’u cymunedau.
Cafodd yr holl enillwyr eu llongyfarch gan Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Addysg Uwch, a ddywedodd “Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y tiwtoriaid gwych sy’n gweithio ar draws addysg drydyddol sy’n gwneud gwahaniaeth bob dydd.
“Rwyf wedi clywed gan lawer o oedolion sy’n ddysgwyr a ddywedodd wrthyf fod dychwelyd i ddysgu wedi gwella eu bywydau. Gwyddom pan fod un person yn dysgu bod y manteision yn ymestyn ledled teuluoedd a chymunedau cyfan mewn ffyrdd sydd wirioneddol yn newid bywydau.”
Fe wnaeth Michelle Matheron, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith, longyfarch yr holl enillwyr a diolch i Mr Griffiths am ei gefnogaeth faith fel hyrwyddwr addysg oedolion.
Dywedodd fod y bron gant o enwebiadau a gafwyd ar gyfer gwobrau eleni yn dangos “lled, dyfnder a chyrraedd sgiliau, ymroddiad a phroffesiynoldeb yn y sector”, meddai.
“Mae dysgu gydol oes lle bynnag y mae’n digwydd yn hanfodol i Gymru gyflawni ei huchelgeisiau cymdeithasol ac economaidd,” ychwanegodd. “Mae’n newid bywydau, yn cyfoethogi cymunedau ac yn tyfu’r economi heb sôn dim am y budd iechyd a chymdeithasol ehangach. Mae ein tiwtoriaid yn sylfaenol i hynny.”
Caiff y gwobrau eu cefnogi gan Colegau Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru, Prifysgolion Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
More News Articles
« Cofrestru yn agor ar gyfer Dosbarth Meistr 2026 CGA: Llesiant mewn munudau nid misoedd — Sgiliau, Prentisiaethau a Chyfle: Sicrhau Dyfodol Lletygarwch yng Nghymru »

