Mae eich Pasbort Dysgu Proffesiynol

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Dyfais ar-lein sy’n rhoi cyfle i chi gofnodi’ch gwaith proffesiynol, myfyrio arno ac ymchwilio er mwyn ei wella yw’ch Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP). Yn y bôn, fersiwn ddigidol o’r ffeils lever arch ‘na oedd yn llawn papurau ydyw, ond mae’n haws i’w ddefnyddio ac yn llai tebygol o fynd ar goll. A chi biau’ch PDP, felly chi sy’n penderfynu beth i’w roi ynddo a sut i’w ddefnyddio. Does dim rhaid i chi fod yn gweithio mewn ysgol neu goleg i’w ddefnyddio, ddim ond wedi’ch cofrestru gyda ni!

A chithau wedi’ch cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA), mae’n siŵr eich bod wedi clywed am y Pasbort Dysgu Proffesiynol (PDP) – wedi’r cyfan, ar eich cyfer chi y cynlluniwyd ef! Ond os nad ydych erioed wedi edrych ar eich Pasbort neu os na wyddoch y gwahaniaeth rhwng eich asedau a’ch EBSCOs, darllenwch ein canllaw syml isod i weld i ble y gall eich Pasbort fynd â chi.

Sut allaf i ei ddefnyddio?

Cewch ddefnyddio’ ch PDP mewn gwahanol ffyrdd. Gallech ei ddefnyddio i gofnodi a myfyrio, i gynllunio a chydweithio, neu i ymchwilio a rhannu. Mae’n system hyblyg iawn fel y gallwch ei defnyddio yn y ffordd orau i chi.

Os na wyddoch ble i ddechrau, cymerwch gip ar y templedi sydd eisoes yn y PDP fel y gallwch gofnodi’ch profiadau a myfyrio arnynt. Gallwch lwytho bron bob math o ffeiliau i’ch Pasbort fel y bydd eich holl luniau, fideos a ffeiliau testun yn yr un lle. Gallwch lwytho faint bynnag fynnwch chi i’ch Pasbort a’i storio yno.

Hefyd, cewch ddefnyddio’ch Pasbort wrth gyflwyno tystiolaeth ar gyfer safonau proffesiynol dysgu seiliedig ar waith. Felly mae’n ffordd hawdd a sydyn o gadw’ch holl dystiolaeth broffesiynol yn yr un lle. Dysgu sut i fapio’ch Safonau Proffesiynol.

Adnoddau

Yn ogystal ag awgrymiadau a thempledi i’ch rhoi ar ben y ffordd, fe welwch gronfa ddata ymchwil addysg o’r enw EBSCO. Mae’r gronfa ddata yn cynnwys addysg ar bob lefel, o’r blynyddoedd cynnar i addysg oedolion, ynghyd ag anghenion dysgu ychwanegol a datblygu’r cwricwlwm. Mae EBSCO yn cynnwys casgliad o dros 3,300 o e-lyfrau hefyd. Beth am lawrlwytho un o’r llyfrau hyn a’i gadw yn eich Pasbort i’w ddefnyddio pan fydd angen?

Ble mae dechrau?

Mae’n hawdd agor eich PDP – bydd angen i chi greu cyfrif FyCGA i ddechrau. Gallwch wneud hyn trwy glicio ar y ddolen Cofrestru am fynediad i’r we ar waelod sgrin fewngofnodi FyCGA. Bydd angen i chi greu enw defnyddiwr, gan ddefnyddio naill ai’ch Cyfeirnod neu’ch Rhif Yswiriant Gwladol, ynghyd â’r cyfeiriad ebost sydd gennym ar eich cyfer ar y gofrestr. Os cewch drafferth i greu’ch cyfrif, efallai bod y cyfeiriad e-bost anghywir gennym ar eich cyfer. Cysylltwch â ni a gallwn newid hyn i chi.

Mae CGA eisoes yn cydweithio â nifer o gwmnïau sy’n defnyddio’r Pasbort i helpu eu staff i gofnodi a rhannu eu datblygiad proffesiynol a byddem yn barod iawn i ddod i’ch sefydliad chi i gynnig hyfforddiant am ddim ar ddefnyddio’r PDP. Os hoffech drefnu sesiynau, cysylltwch â ni yn professionaldevelopment@ewc.wales

www.ewc.wales/site/index.php/cy/datblygiad-proffesiynol/pasbort-dysgu-proffesiynol.html

More News Articles

  —