Helpwch i lywio cynlluniau i hybu sgiliau a recriwtio yn y Canolbarth

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Os ydych chi’n fusnes yn y Canolbarth, hoffai’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol glywed oddi wrthych.

Trwy roi dim ond 5 munud o’ch amser, gallech chi helpu i lywio cynlluniau pwysig ar gyfer sgiliau a recriwtio a allai fod o fudd i chi, eich staff a’ch busnes.

Hoffai’r Bartneriaeth glywed beth sydd gennych i’w ddweud am yr heriau sy’n eich wynebu fel busnes ac, yn benodol am recriwtio sgiliau yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym yn adrodd yn ôl wrth Lywodraeth Cymru am sefyllfa sgiliau yn y Canolbarth – trwy gael atebion i’r ychydig gwestiynau hyn, gallwn gasglu data a fydd yn llywio ac yn dylanwadu ar newid yn y mannau cywir.

Helpwch ni i roi gwybod i Lywodraeth Cymru pa ddarpariaeth sgiliau y mae arnom ei hangen fel y gall yr economi a phobl ledled y Canolbarth ffynnu.

Tyfu Canolbarth Cymru, Arolwg Sgiliau 2023 gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

Bydd yr arolwg yn cau ddydd Gwener 27 Hydref 2023.

Tyfu Canolbarth Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —