Adeiladu Galluoedd Digidol

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Amcangyfrifir y bydd angen i bobl ddefnyddio thechnolegau digidol ar gyfer 90% o’r holl swyddi ymhen 20 mlynedd. Eisoes, mae llawer o fusnesau’n cael trafferth recriwtio gweithwyr sydd â sgiliau digidol.

Er mwyn byw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas ddigidol, mae angen i’ch dysgwyr ddatblygu’r sgiliau digidol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt nawr, yn ogystal â’r hyder a’r galluoedd dyfnach a fydd yn eu galluogi i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ac addasu i dechnolegau newydd.

Bydd Jisc yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein ym misoedd Hydref a Thachwedd i helpu pobl i adeiladu galluoedd digidol.

  • 23 Hydref 2023 – Llythrennedd data
  • 6 Tachwedd 2023 – Creu defnyddiau digidol
  • 16 Tachwedd 2023 – Dulliau digidol o ddatrys problemau ac arloesi
  • 23 Tachwedd 2023 – Dulliau digidol o ddysgu a datblygu

Cysylltwch â’ch rheolwr perthynas gyda Jisc i gael gwybod mwy.

Defnyddio ein hofferyn darganfod
Gall staff a myfyrwyr ddefnyddio ein Discovery Tool i fyfyrio ar eu galluoedd digidol ac mae’n eich helpu i:

  • Nodi cryfderau presennol a meysydd i’w datblygu
  • Rhoi adroddiad personol i staff a dysgwyr gydag awgrymiadau am y camau nesaf ac adnoddau
  • Canfod cyfleoedd i ddatblygu yn lleol
  • Rhoi darlun o’r ffordd y mae’ch staff a’ch dysgwyr yn teimlo am eu sgiliau digidol gan ddefnyddio dangosfyrddau data

Caiff dalwyr contractau a gomisiynir a’u partneriaid ddefnyddio’r gwasanaethau hyn i gyd am ddim diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at ymuno â chi ar eich taith ddigidol drawsnewidiol.

Jisc Cymru

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —