Myfyrwyr a phrentisiaid yn codi’r faner dros Dîm Cymru mewn sioe sgiliau fawr y DU

Postiwyd ar gan karen.smith

Bydd ugeiniau o fyfyrwyr a phrentisiaid yn dangos ansawdd dysgu galwedigaethol Cymru’r wythnos hon i ddegau o filoedd o bobl o ar draws y DU mewn ‘Sioe Sgiliau’ fawr, newydd, sy’n cael ei chynnal yn Birmingham. (Tachwedd 15–17)

Gallai llawer o’r bobl ifanc 18 – 23 mlwydd oed o Gymru sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau’r DU yn eu sgiliau dewisol fod yn cymryd y cam cyntaf ar y llwybr i glod rhyngwladol yn WorldSkills Leipzig 2013 neu hyd yn oed yn WorldSkills Rio de Janeiro yn 2015.

Maen nhw’n cystadlu’r wythnos hon yn eu categorïau eu hunain yn rownd derfynol WorldSkills UK sy’n cael ei chynnal yn y National Exhibition Centre (NEC), Birmingham fel rhan o’r Sioe Sgiliau gyntaf y disgwylir iddi ddenu hyd at 100,000 o wylwyr.

Am y tro cyntaf, mae’r rhan fwyaf o rowndiau terfynol WorldSkills UK yn y 40 o ddisgyblaethau cymwys yn cael eu cynnal mewn un man er mwyn cael un arddangosfa o hyfforddeion mwyaf talentog y DU.

Cafodd y Sioe Sgiliau ei sefydlu fel digwyddiad blaenllaw blynyddol a fydd yn etifeddiaeth i’r digwyddiad WorldSkills 2011 a gynhaliwyd yn Llundain y llynedd.

Llwyddodd y fintai o Dîm Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol yn Birmingham oherwydd eu bod wedi gwneud cystal yn rhaglen Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn gynharach eleni, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae’r fintai’n cynnwys hyfforddeion mewn meysydd mor amrywiol â dylunio gwefannau, gwaith coed, peirianneg cerbydau modur, gwneud gwydr lliw, gwaith plymwr, plastro ac electroneg ddiwydiannol.

Bydd myfyrwyr a hyfforddeion eraill o Gymru, heb fod â rhan yng nghystadlaethau WorldSkills UK, hefyd yn dangos eu talentau mewn amrywiaeth eang o sgiliau mewn rhaglen weledol llawn adloniant a fydd yn si_r o ysbrydoli ymwelwyr. Bydd myfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) Coleg Harlech (Gogledd), Grŵp Llandrillo Menai a Hyfforddiant ISA yn cymryd eu lle ymysg 50 o sefydliadau sydd wedi’u dewis i ‘Arddangos’.

Bydd sgiliau Cymru i’w gweld ar stondin arddangos fawr a fydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi amrywiaeth eang o sgiliau. Cafodd hyn ei drefnu gan bartneriaeth sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, Colegau Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ac Addysg Uwch Cymru.

Dymunodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, Jeff Cuthbert, yn dda i bawb sy’n cymryd rhan o’r gwahanol golegau a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru yn eu cystadlaethau yn y NEC. Meddai: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i Gymru ddangos ansawdd ei datblygiad sgiliau galwedigaethol ar draws llawer o ddisgyblaethau ac i ni allu dangos ein bod yn gallu dal ein tir yn erbyn goreuon y byd.”

Cafodd ei ategu gan Barry Liles, Cadeirydd y Rhwydwaith Sgiliau a Hyrwyddwr Sgiliau Cymru. Meddai: “Mae’n bwysig iawn fod ein myfyrwyr a’n hyfforddeion yng Nghymru yn cael cyfle i brofi’u sgiliau yn erbyn cyfoedion o ar draws y DU a’r Byd. Mae’n gosod meincnod sy’n eu hannog i ddisgleirio ac i ddangos pa mor dda y gallen nhw fod. Mae gen i bob hyder y bydd cyfranogwyr Cymru yn y Sioe Sgiliau gyntaf yr wythnos hon yn ein gwneud ni’n falch ohonyn nhw.”

More News Articles

  —