Yn helpu Cyflogwyr Gogledd Cymru i Adeiladu Gweithlu Cryfach
English | Cymraeg

Tîm Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru – Chwith i’r Dde: David Roberts, Catherine Morris-Roberts, Angharad Evans, Sian Lloyd-Roberts a Rees Brown.
Bydd Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2026 – 2029 yn cael ei lansio’n swyddogol ar 12fed o Dachwedd 2026, yn Venue Cymru.
Mae cyflogwyr ledled Gogledd Cymru yn gwynebu heriau cynyddol o ran recriwtio, cadw staff a datblygu gweithlu. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio i gysylltu busnesau â’r cymorth, adnoddau a’r arbenigedd sydd eu hangen arnyn nhw i fynd i’r afael â heriau’r gweithlu a chynllunio ar gyfer llwyddiant hir-dymor.
Mae’r cynllun yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o dirwedd sgiliau presennol ac ymddangosol y rhanbarth. Mae’n dod â mewnwelediad o gyflogwyr o bob maint, gan gynnwys busnesau maint chanolig, bach a busnesau micro ar draws sectorau blaenoriaeth, gan dynnu sylw at eu anghenion recriwtio a sgiliau, tra hefyd yn adlewyrchu’r rhwystrau y mae unigolion yn eu hwynebu wrth fynd trwy hyfforddiant, cynnydd, a chyfleoedd cyflogaeth.
Mae dod o hyd i’r cymorth cywir yn gallu bod yn anodd. Mae llawer o gyflogwyr yn ansicr pa raglenni sydd ar gael, a ydynt yn gymwys, neu â phwy i gysylltu am gymorth.
Mae’r digwyddiad hyn yn dod a phopeth at ei gilydd mewn un lle, gan ei gwneud hi’n haws i fusnesau gael mynediad at atebion ymarferol, cyngor arbenigol a chefnogaeth ddibynadwy.
Dyma rai o’r heriau gweithlu a nodwyd yn y cynllun sydd yn gwynebu cyflogwyr Gogledd Cymru:
- Mae 53% o gyflogwyr yn dweud mai recriwtio yw eu prif her fusnes.
- Mae 68% yn adrodd am anawsterau wrth recriwtio ar gyfer rolau penodol.
- Mae 56% yn wynebu prinder sgiliau, yn enwedig ym maes crefftau medrus, galwedigaethau proffesiynol a rolau rheoli.
- Dim ond 3 o bob 10 cyflogwr sy’n dweud eu bod yn gallu dod o hyd i wybodaeth am gyfleoedd hyfforddi, datblygu a chyllido yn hawdd.
- Er bod 81% o gyflogwyr yn ymwybodol o Brentisiaethau, mae ymwybyddiaeth o raglenni gwerthfawr eraill, gan gynnwys Prentisiaethau Gradd, Twf Swyddi Cymru+, ReAct+ a’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg, yn parhau i fod yn llawer is.
Bydd lansiad meddal yn cael ei gynnal ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol yn y cyfnod cyn y prif ddigwyddiad, er mwyn cyflwyno Cynllun Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2026–2029.
Dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru i gael y newyddion diweddaraf yn y cyfnod cyn y prif lansiad: PSR Gogledd Cymru – RSP North Wales. Facebook X LinkedIn
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
More News Articles
« Taith Hannah wrth ddysgu Cymraeg yn helpu dysgwyr eraill sy’n ddall a sy’n gweld yn rhannol — Gwneud cymwysterau galwedigaethol yn addas ar gyfer dyfodol Cymru »

