Adroddiad newydd yn datgelu effaith y toriad i gyllid prentisiaethau yng Nghymru
Effaith toriad o 14% yng nghyllid Llywodraeth Cymru i’w rhaglen brentisiaethau yw pwnc llosg adroddiad newydd a drafodir mewn digwyddiad rhwydweithio dros frecwast yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith.
Bydd aelodau o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn cyfarfod yng Ngwesty Dewi Sant fore Mawrth, rhwng 8am a 10am, ar gyfer y digwyddiad ‘Buddsoddi mewn Prentisiaethau: Sicrhau ein Dyfodol’, i wrando ar ddewis diddorol o siaradwyr.
Bydd Lisa Mytton, cyfarwyddwr strategol yr NTFW, yn cyflwyno rhai o brif ganfyddiadau’r adroddiad, a gomisiynwyd ar y cyd gan yr NTFW a ColegauCymru, ac sy’n mynd i’r afael ag effeithiau’r toriad i’r cyllid.
Yn gynharach yn yr hydref, galwodd yr NTFW ar y Prif Weinidog Eluned Morgan i adfer yr arian a dorrwyd o’r gyllideb brentisiaethau. Dywedodd fod y toriad wedi:
- Lleihau cyfleoedd i bobl ifanc;
- Rhoi mwy o straen ar gyflogwyr;
- Effeithio ar rannau allweddol o’r economi a’r sector cyhoeddus;
- Cael effaith anffafriol ar weithlu proffesiynol y darparwyr dysgu;
- Effeithio’n benodol ar Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y digwyddiad rhwydweithio dros frecwast,” meddai Lisa. “Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle hollbwysig i drafod effeithiau’r toriadau ariannol a wnaed yn ddiweddar ac i amlygu pwysigrwydd prentisiaethau er mwyn grymuso unigolion, cryfhau ein gweithlu a sbarduno twf economaidd.
“Bydd y wybodaeth a’r trafodaethau a gawn yn y digwyddiad yn amhrisiadwy er mwyn llywio dyfodol dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru.”
Ymhlith y siaradwyr eraill yn y digwyddiad brecwast fydd Luke Fletcher AS, cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Brentisiaethau a Rhian Edwards, cyfarwyddwr gweithredol polisi, Medr, sef y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil sydd newydd ei sefydlu.
Bydd Claire Roberts, pennaeth ymgysylltu strategol ac Elaine Carlile, rheolwr ymgysylltu strategol, y ddwy o Cymwysterau Cymru, yn siarad am baratoi’r ffordd ar gyfer cyflogadwyedd gydol oes trwy adolygu a diwygio cymwysterau.
Bydd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect gydag Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru yn cyflwyno pobl o Gymru sydd newydd fod yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK ym Manceinion.
Os hoffech wybod mwy am fod yn aelod o’r NTFW, cysylltwch â Karen Smith, rheolwr cyfathrebu a marchnata’r NTFW trwy ebostio karen.smith@ntfw.org neu ffonio 07425 621709.
More News Articles
« Cyflawniadau yn cael ei cydnabod wrth i brentisiaid ddarparwr hyfforddiant radio — Cystadleuwyr Cymru yn disgleirio wrth ennill 70 medal yn rowndiau terfynol DU »


