Chwarter prysur o ddigwyddiadau, cyfarfodydd a lobïo i’r NTFW!

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Lisa Mytton, NTFW Strategic Director portrait shot.

Lisa Mytton, Cyfarwyddwr Strategol NTFW.

Cynhadledd flynyddol lwyddiannus, dau ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru, cyfres o gyfarfodydd pwysig a lobïo parhaus ar ran aelodau – bu’n chwarter (neu’n dri mis) prysur i’r NTFW.

Nawr, a hithau’n wanwyn, mae’r sylw’n troi at ein strategaeth ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026 a Maniffesto ar gyfer Prentisiaethau a Sgiliau.

Cyfarfod Deiliaid Contractau Prentisiaethau (ACH)
Ar ddechrau’r chwarter, cynhaliwyd cyfarfod i Ddeiliaid Contractau Prentisiaethau (ACH) ar gyfer y 10 deiliad contract a gomisiynwyd. Mae trafodaethau ar gylchred y Fframwaith ac adolygiadau ohono, contractio a’r gyllideb ddrafft yn hanfodol er mwyn sicrhau bod rhaglenni prentisiaethau yn dal yn effeithiol ac yn cael digon o arian.

Cydweithredu a Chefnogi’r Sectorau
Rydym wedi bod yn cydweithio â phobl yn Medr a’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith ar sawl cynllun allweddol, yn cynnwys cymorth ADY, cymelldaliadau i gyflogi pobl anabl, a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Buom yn trafod heriau’r diwydiant adeiladu hefyd, yn enwedig yr angen am lwybr Prentisiaethau Lefel 2.

Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth o’r problemau sy’n wynebu dysgwyr a chyflogwyr mewn perthynas â chyflenwi Fframweithiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4 a 5. Bydd y cynnydd yn cael ei rannu â’r rhwydwaith er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth ac atebion.

Lobïo ac Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru
Dros y misoedd diwethaf, treuliwyd cryn dipyn o amser yn mynychu cyfarfodydd Llywodraeth Cymru ac yn lobïo. Buom yn lobïo ynghylch canlyniadau anfwriadol peidio â chynyddu’r gyllideb brentisiaethau a byddwn yn dal i weithio gyda Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at yr angen am ragor o fuddsoddi.

Cafodd yr NTFW ei gynrychioli hefyd mewn dau ymchwiliad gan Lywodraeth Cymru. Y cyntaf oedd ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Lwybrau at Addysg a Hyfforddiant Ôl-16, lle buom yn trafod rhwystrau a heriau wrth bontio o’r ysgol i brentisiaethau, gan gynnwys materion yn ymwneud â chostau byw a trafnidiaeth.

Yr ail oedd ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i Lwybrau Prentisiaethau. Fe wnaethom ni dynnu sylw at yr angen i Lywodraeth Cymru gael strategaeth sgiliau ac at bwysigrwydd cynnwys cyflogwyr a chynghori pobl ifanc i ddewis y llwybr prentisiaeth cywir iddyn nhw pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Ffair Brentisiaethau
Ym mis Chwefror, daeth nifer dda o bobl i Ffair Brentisiaethau ar y cyd â ColegauCymru yn y Senedd. Yno, buom yn dangos i Weinidogion ac Aelodau’r Senedd beth sydd gan brentisiaethau i’w gynnig.

Cystadlaethau Sgiliau
A ninnau’n aelod o Grŵp Llywio WorldSkills, rydym yn cydweithio â rhanddeiliaid eraill i baratoi ar gyfer rowndiau terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU a’u cefnogi. Fe’u cynhelir yng Nghymru yn yr hydref.

Dathlu Llwyddiant: Digwyddiadau Allweddol
Daeth y chwarter i ben ar nodyn uchel yng Nghaerdydd gyda chinio cyntaf Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB) a Chynhadledd Flynyddol lwyddiannus NTFW yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Yn y gynhadledd roedd siaradwyr o Cymwysterau Cymru, Medr, Agored Cymru, a City & Guilds. Un o’r uchafbwyntiau oedd y gweithdai, a arweiniwyd gan randdeiliaid allweddol yn y diwydiant a phedwar prentis a fu’n rhannu eu profiadau’n huawdl. Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant, oedd yn cloi’r digwyddiad.

yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —