Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni’n torri sawl record, meddai cyfarwyddwr NTFW

Postiwyd ar gan karen.smith


English | Cymraeg

Adam Pike, un o brentisiaid Cwmni Hyfforddiant Cambrian, enillydd medal aur mewn celfyddydau coginio.

Mae cyfarwyddwr strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), Lisa Mytton, wedi llongyfarch dros 600 o bobl ifanc dalentog am wneud yn wych yng ngwobrau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni.

Dyfarnodd y beirniaid 96 medal aur, 92 medal arian a 97 medal efydd yn y cystadlaethau a gynhaliwyd ym mis Chwefror, gyda 1,168 o gystadleuwyr, mwy nag erioed o’r blaen, yn cymryd rhan mewn 65 o ddisgyblaethau.

Roedd y cystadlaethau yn y rhaglen fwyaf a gyflwynwyd erioed gan Gystadleuaeth Sgiliau Cymru yn amrywio o gelfyddydau coginio a datblygu gwefannau i beirianneg awyrenegol ac ynni adnewyddadwy.

Roedd gan ddarparwyr hyfforddiant annibynnol Cymru 30 o ddysgwyr yn cystadlu, mwy nag erioed o’r blaen, gan ennill medalau a chanmoliaeth uchel mewn 12 cystadleuaeth.

Trwy gysylltiadau cryf y darparwyr â chyflogwyr, caff dysgwyr brofiad gwerthfawr yn y byd go iawn yn ogystal â hyfforddiant technegol, gan eu helpu i feithrin digon o sgiliau a’r hyder i lwyddo yn y diwydiant.

“Roedd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni’n brofiad gwirioneddol eithriadol, gan arddangos doniau, ymroddiad ac uchelgais rhyfeddol pobl ifanc ledled y wlad,” meddai Lisa.
 
“Mae’n wych gweld cynrychiolaeth mor gryf gan golegau a darparwyr dysgu seiliedig ar waith, sy’n gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i ddatblygu sgiliau ar gyfer y byd go iawn.

“Llongyfarchiadau i bawb a enillodd fedal neu a gafodd ganmoliaeth uchel – maen nhw’n ysbrydoliaeth. Dymuniadau gorau i’r rhai sy’n mynd ymlaen i’r camau nesaf, gan gynnwys WorldSkills UK.

“Mae eu llwyddiant yn adlewyrchu rhagoriaeth y rhwydwaith darparwyr hyfforddiant yma yng Nghymru.”

Roedd y seremoni wobrwyo fyw, yn Theatr y Pafiliwn, y Rhyl, yn gyfle i ddathlu llwyddiant 287 o bobl a enillodd fedalau a 327 a gafodd ganmoliaeth uchel yn y cystadlaethau.

Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, a ddarperir trwy brosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru, yn fan cychwyn i ddysgwyr symud ymlaen i gystadlaethau Prydeinig a rhyngwladol, yn cynnwys WorldSkills UK, EuroSkills a WorldSkills International, lle gellir dewis cystadleuwyr i gynrychioli Tîm y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Paul Evans, cyfarwyddwr prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn dal i dyfu o ran ei maint a’i heffaith. Eleni roedd dros 1,100 o gystadleuwyr mewn 65 o gystadlaethau ac mae’n wych gweld cymaint o bobl ifanc dalentog yn gwthio eu hunain er mwyn rhagori.

“Mae’r cystadlaethau hyn yn rhoi cyfle i ddysgwyr roi prawf ar eu sgiliau ar gyfer eu diwydiant, o dan bwysau, gan feithrin hyder, gwydnwch ac uchelgais ar gyfer symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

“Mae ymroddiad cystadleuwyr, tiwtoriaid, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr o bob rhan o Gymru wir yn ysbrydoledig. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran a dymuniadau gorau i’r rhai sy’n symud ymlaen i’r cystadlaethau nesaf.”

Y rhai sy’n cael eu hyfforddi gan ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ac a enillodd fedalau aur yw Chantal Watters a Chloe Williams o ACT mewn cyfrifeg ac Adam Pike o Gwmni Hyfforddiant Cambrian mewn celfyddydau coginio.

Enillodd tri o XR Training fedalau arian ym maes adeiladu a seilwaith – Karl Alenizy mewn gwaith gosod trydanol ac Adam Davis a Lewis Williams mewn ôl-osod. Yn ogystal, enillodd Bethan Austin-Terry, ACT, fedal arian mewn gofal plant a chafodd Tristan Williams, ITEC Training Solutions, fedal efydd mewnn datrysiadau meddalwedd TG ar gyfer busnes.

Cafodd nifer o ddysgwyr ACT ganmoliaeth uchel – William Myrick mewn garddwriaeth, Eddie Pearce mewn paratoi bwyd, Mckenzie O’Rourke mewn gwasanaeth bwytai ac Olivia Ampleford, Ellie Finch a Gintare Jodkeviciute mewn cyfrifeg.

Cystadleuwyr eraill a gafodd ganmoliaeth uchel oedd Ella Davies a Skye Davies, ITEC Training Solutions, mewn gofal plant, William Conway, XR Training, mewn gwaith gosod trydanol a Bleddyn Daw, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, mewn celfyddydau coginio.

Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru

Yn ôl i’r brig>>

More News Articles

  —