Trafodaeth Bwrdd Crwn ar Sgiliau Adnewyddadwy a gynhaliwyd yng Ngogledd Cymru
Cynhaliodd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarth Gogledd Cymru, mewn cydweithrediad â Grŵp Llandrillo Menai, Drafodaeth Bwrdd Crwn lwyddiannus iawn ar Sgiliau Adnewyddadwy yng Nghanolfan Beirianneg Coleg Llandrillo yn Rhyl. Daeth yr digwyddiad â phrif gyflogwyr, arbenigwyr diwydiant, darparwyr addysg bellach ac uwch, Medr a chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ynghyd i drafod y sgiliau sydd eu hangen i gefnogi taith Cymru tuag at Sero Net.
Roedd y drafodaeth hon yn rhan o’r paratoadau ehangach ar gyfer y Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills UK 2025, a gynhaliwyd yng Nghymru am y tro cyntaf rhwng 25–28 o Dachwedd. I gyd-fynd â’r digwyddiad fe cafwyd ‘spotlight’ ar Ragoriaeth Sgiliau, yn dathlu talent rhanbarthol ac yn amlygu Gogledd Cymru fel grym gyrru ar gyfer arloesi sgiliau.
Dechreuodd y digwyddiad gyda chroeso cynnes gan Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, ac yna gan David Roberts, Cadeirydd Partneriaeth Sgiliau Rhanbarth Gogledd Cymru, a Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo. Pwysleisiodd y siaradwyr i gyd y pwysigrwydd o bartneriaeth cydweithredol wrth ddatblygu gweithlu sydd wedi’i gyfarparu i ddiwallu anghenion y sector adnewyddadwy sy’n tyfu’n gyflym.
Clywodd y mynychwyr hefyd gan Damian Woodford, Dirprwy Bennaeth, a roddodd ddiweddariad ar gyfraniad Coleg Llandrillo i Rownd Derfynol WorldSkills UK, ynghyd ag un o brentisiaid RWE yn rhannu eu brofiad o. Dilynwyd hyn gan gyflwyniadau gan Andrew Granville, Pennaeth Sgiliau Net Sero a Digidol Llywodraeth Cymru, a thîm Prentisiaethau MEDR, a amlinellodd ddatblygiadau cenedlaethol cyfredol a’r cyfleoedd o fewn y dirwedd hyfforddi a phrentisiaethau.
Trafodaeth y Bwrdd Crwn: Heriau a Chyfleoedd Sgiliau
Prif elfen y digwyddiad oedd trafodaeth fanwl o amgylch y bwrdd. Archwiliodd cyfranogwyr bylchau sgiliau presennol, heriau recriwtio ac anghenion y gweithlu yn y dyfodol ar draws y rhanbarth. Roedd prif themâu’n cynnwys:
- Bylchau Sgiliau: Meddwl systemau, datrys problemau ymarferol, sgiliau cyfathrebu, seiber ddiogelwch a gallu Diwydiant 4.0 sy’n dod i’r amlwg.
- Heriau Recriwtio: Prinder difrifol mewn rolau adeiladu a pheirianneg craidd, gan gynnwys weldwyr, trydanwyr, sgaffaldwyr a thechnegwyr.
- Technoleg y Dyfodol: Effaith gynyddol gyda awtomeiddio, AI, digideiddio, peirianwaith is-forol, tanwyddau synthetig a rolau data amgylcheddol.
- Anghenion Sgiliau Traws-Sector: Rheoli prosiectau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a sgiliau monitro amgylcheddol.
Daeth neges glir i’r amlwg: mae angen mwy o bopeth yng Ngogledd Cymru. Er bod rhaglenni hyfforddi ar gael eisoes, mae’n hanfodol cynyddu’r nifer sy’n cael eu darparu i ateb y galw cynyddol. Cafodd gwella cyfathrebu ac amlygrwydd cyfleoedd gyrfa ei nodi hefyd fel blaenoriaeth.
Edrych Ymlaen
Mae’r Drafodaeth Bwrdd Crwn wedi creu sail gadarn ar gyfer cydweithio parhaus, gan alluogi partneriaid i nodi sut y gall cyfleoedd hyfforddi, prentisiaethau a chydweithio â diwydiant gefnogi Cymru ffyniannus, gynaliadwy ac sy’n barod ar gyfer Sero Net. Roedd ysbrydoliaeth glir gan y rhai a fynychodd i barhau â’r trafodaethau hyn ac i adeiladu ar y momentwm a gynhyrchwyd yn ystod y digwyddiad.
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
More News Articles
« Tîm Cymru yn fuddugol gyda 61 medal gartref wrth i Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK — Prentisiaeth Gwaith Ieuenctid yn Talu Ffordd »


