Ffocws ar y Diwydiant Ynni Carbon Isel
Ymchwil Sgiliau Ynni Carbon Isel
Yn ddiweddar, comisiynodd y Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (PSRGC) Wavehill i gynnal dadansoddiad sgiliau ar draws y diwydiant ynni carbon isel yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys ynni Gwynt ar y môr ac ar y tir, ynni Morol gan gynnwys llanw yn ogystal â Niwclear gan gynnwys Datblygiadau SMR a Datgomisiynu. Cafodd y gwaith ei lywio gan ddatblygwyr allweddol yn y rhanbarth, yn cynnwys RWE, Magnox, BP, Cwmni Egino a Morlais.
Prif bwrpas y prosiect oedd deall yn well y sgiliau a’r swyddi sydd eu hangen ar ddatblygwyr a’u cadwyn gyflenwi, yn awr a thros y 10 mlynedd nesaf. Roedd yr ymchwil hwn hefyd yn allweddol i ddarganfod unrhyw fylchau a phrinder sgiliau a wynebir gan y diwydiant. Y cam nesaf yn y prosiect hwn yw gweithio gyda darparwyr yn y rhanbarth i ddeall y ddarpariaeth sydd ar gael yn erbyn yr hyn sy’n ofynnol gan y diwydiant a nodi unrhyw fylchau (os o gwbl). Isod mae rhai canfyddiadau allweddol o’r ymchwil:
- Mae angen sicrwydd gan y Llywodraeth a Buddsoddwyr yn y llif o brosiectau sydd yn y broses gynllunio. Nododd llawer o rhanddeiliaid bod Gogledd Cymru wedi’i brifo gan y ffaith na ddatblygwyd Wylfa Newydd, gan arwain at rywfaint o sinigiaeth ymhlith pobl ifanc a darparwyr hyfforddiant ynghylch cyfleoedd yn y dyfodol.
- Mae prinder mawr o bobl sydd â sgiliau cynllunio a chydsynio neu bobl nad yw’r cyfleoedd yng Nghymru yn ddigon deniadol iddynt. Gall diffyg cwrs Meistr mewn Cynllunio yng Ngogledd Cymru olygu nad yw graddedigion yn ystyried bod yr ardal yn gyrchfan bosibl.
- Mae’r sgiliau y mae galw mawr amdanynt yn drosglwyddadwy iawn i ddiwydiannau eraill, gan greu llawer o gystadleuaeth. Mae hyn yn arwain at ddadleoli ac yn golygu nad yw diwydiannau’n cydweithio i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd màs critigol mewn ardal. Mae angen cydlynu darpariaeth sgiliau ac anghenion ar draws yr amryw is-sectorau.
- Yn ôl y llenyddiaeth, mae yna ddiwydiannau sy’n dirywio ar hyn o bryd (fel olew a nwy) sy’n cynnwys nifer fawr o weithwyr sydd â’r potensial i gael eu hailsgilio neu eu huwchsgilio i weithio yn y sector Ynni Carbon Isel.
- Mae cryfhau’r talent yng Ngogledd Cymru i greu gweithlu sydd â thuedd i aros yn yr ardal yn debygol o fod yn fwy llwyddiannus na cheisio cystadlu i ddenu pobl i’r ardal.
- Mynegodd rhai rhanddeiliaid bryderon nad oedd digon o gyllid i gefnogi hyfforddiant gweithwyr yn y cwmnïau bach sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi.
Dilynwch y ddolen yma i ddarllen yr adroddiad llawn a gofynnwn yn garedig i chi rannu ymhlith eich rhwydwaith.
Prosbectws a fideo byr ar gyfer Cyflogwyr y Diwydiant Ynni Carbon Isel

Mae’r gwaith o ddatblygu prosbectws corfforaethol a fideo ar gyfer busnesau yn dod i ben a byddant yn barod i’w lansio cyn bo hir. Mae’r adnoddau hyn yn amlygu’r cyfleusterau addysg a hyfforddiant rhagorol sydd ar gael ar draws ein colegau a’n prifysgolion yng Ngogledd Cymru. Mae astudiaethau achos gan gyflogwyr a rhanddeiliaid hefyd wedi’u cynnwys yn y prosbectws i arddangos y gwaith arbennig o dda sydd yn mynd ymlaen ac i ddangos enghreifftiau o ba mor hyblyg yw y darparwyr i fodloni anghenion cyflogwyr.
Dilynwch y ddolen yma i ddarllen prosbectws a gofynnwn yn garedig i chi rannu ymhlith eich rhwydwaith.
Partneriaeth Sgilliau Rhanbarthol Gogledd Cymru
More News Articles
« Ysbrydoli dysgwyr am dros 25 mlynedd, waeth beth fo’u hoedran — Celtic Collection yn cyrraedd 100fed carreg filltir prentis »


