Cyfle i brentis creadigol hyrwyddo Doctor Who

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Owain Carbis – prentisiaeth gyda’r BBC fel gwireddu breuddwyd.

Dychmygwch pa mor gyffrous fyddai cael cyfle i greu negeseuon i hyrwyddo cyfres deledu eiconig ar y BBC a helpu i’w rheoli a chithau’n ddim ond 19 oed.

Dyna’n union ddigwyddodd i Owain Carbis, bachgen dawnus o Ddraenen Pen-y-graig, Caerdydd, yn ystod ei brentisiaeth gydag adran ddigidol a marchnata BBC Cymru.

Yn ogystal â Doctor Who, bu’n hyrwyddo Line of Duty, His Dark Materials, Sherlock, Luther, Our Girl a dramâu newydd eraill gan weithio gyda sêr fel Michelle Keegan a Jodie Whittaker.

Yn awr, mae Owain ar y rhestr fer i ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Roedd cydweithio â thîm Doctor Who fel gwireddu breuddwyd i Owain, sy’n weithiwr llawrydd erbyn hyn, gan ei fod wrth ei fodd â’r gyfres. Cafodd ei waith, a welwyd gan filiynau o bobl ym mhedwar ban byd, ganmoliaeth fawr gan rai o benaethiaid y BBC.

Gwelodd dros 12 miliwn o bobl ddwsin o bosteri a grewyd gan Owain i ddathlu pen blwyddi hen rifynnau o Doctor Who. Roedd hefyd yn un o’r rhai oedd yn creu ac yn cynnal y gyfres ‘What happens next?’ ar storïau Instagram BBC iPlayer, gan ymwneud â gwylwyr selog a rhai newydd.

Darparwyd Prentisiaeth Owain yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol gan Sgil Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg, gan roi sgiliau iddo ym maes fideo, graffeg, gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol. Erbyn hyn, mae’n defnyddio’r sgiliau hynny fel gweithiwr llawrydd.

“Fe wnes i gais am brentisiaeth er mwyn cael fy nhroed ar ysgol gyrfa ym myd marchnata digidol. Fy nod oedd dysgu am y gwaith oddi wrth oreuon y busnes,” meddai Owain.

“Mae’r ffaith eu bod nhw wedi ymddired ynof i i weithio ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Doctor Who – un o brif frandiau’r BBC – yn dangos faint o barch sydd gan fy nghydweithwyr ataf i a phrentisiad eraill yn y busnes. Rwy wrth fy modd fy mod wedi gallu rhoi fy ngweledigaethau creadigol ar waith.”

Dywedodd Matthew Rogers, uwch-gynhyrchydd cynnwys gyda BBC Cymru: “Mae Owain wedi gwneud gwaith eithriadol gyda’i allu ym maes graffeg a golygu fideo. Roedd bob amser yn gwneud gwaith o safon uchel ar gyfer brandiau enwog. Bu’n bleser gweld ei hyder yn tyfu a datblygu.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —