Prentis peirianneg yn arbed £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

William Davies

Mae William Davies, sy’n gweithio i Kautex Textron CVS Ltd yn Hengoed, sy’n arbenigo mewn systemau gweld yn glir ar gyfer y diwydiant moduro, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer un o Wobrau Prentisiaethau Cymru 2021.

Mae William, 20, o Lwydcoed, Aberdâr, wedi gwneud cyfraniad pwysig at y busnes rhyngwladol, gan arbed £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr trwy awtomeiddio system cydosod cynnyrch.

Yn ogystal, mae wedi rhoi argraffydd newydd 3D Rapid Prototyping ar waith er mwyn helpu i ddatblygu systemau cerbydau awtonomaidd, mae wedi gwneud gwelliannau ym meysydd Iechyd a Diogelwch a chynhyrchiant ac mae wedi rheoli prosiect i adnewyddu cantîn a sicrhau ei fod yn ddiogel rhag Covid.

Yn awr, mae William ar y rhestr fer i ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar Ebrill 29.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Yn ôl Steve Mills, rheolwr gwaith technegol a gwelliant parhaus y cwmni, mae William yn un o’r cymeriadau mwyaf eithriadol y mae wedi dod ar ei draws yn ei 25 mlynedd fel rheolwr. Canmolodd allu William i mewn nifer o wahanol feysydd, gan ddweud ei fod eisoes yn gweithio ar lefel peiriannydd gweithgynhyrchu â gradd.

“Er iddi fod yn flwyddyn arbennig o anodd oherwydd y cyfyngiadau ar weithio, yr angen i ddysgu o bell a’r addasiadau y bu’n rhaid eu gwneud, mae’n debygol y bydd William yn rhagori ar ein disgwyliadau unwaith eto,’ meddai.

Mae gan William restr o gymwysterau a rhagoriaethau i’w enw, wedi’u casglu wrth iddo ymdrechu i gyflawni ei uchelgais o fod yn beiriannydd siartredig/cyfarwyddwr cwmni.

Cwblhaodd Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Cymorth Technegol ym maes Peirianneg) chwe mis yn gynt na’r disgwyl yng Ngholeg y Cymoedd lle’r enillodd ddwy wobr. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg Fecanyddol yng Ngholeg Pen-y-bont.

Dywedodd William: “Penderfynais wneud prentisiaeth gan fy mod yn credu y byddai’n rhoi’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol angenrheidiol i mi i wireddu breuddwyd oes, sef bod yn beiriannydd gweithgynhyrchu, ac fe wnaeth.

“Mae’r brentisiaeth yn sicr wedi helpu i fy ngwneud yn fwy cyflogadwy ac rwy’n gwthio fy hunan yn barhaus i ragori ar ddisgwyliadau fy nghyflogwr.

“Rwy’n anelu at berffeithrwydd ac mae gwerthoedd craidd a llwyddiant fy nghwmni yn agos iawn at fy nghalon.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —