Gobaith am wobr i Owen, prentis sydd â’i fryd ar ddiogelu cymunedau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Owen Lloyd yn brysur wrth ei waith.

Wrth ei waith, mae Owen Lloyd yn ymdrechu i ddatrys y problemau llifogydd sy’n poeni pobl Rhondda Cynon Taf a’i uchelgais yw rhagori fel peiriannydd sifil.

Mae Owen, 23, o Goed y Cwm, Pontypridd, yn gweithio i’r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Enillodd ragoriaeth yn ei gwrs BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) yng Ngholeg Pen-y-bont, gan gwblhau ei brentisiaeth o fewn blwyddyn – hanner yr amser arferol. Erbyn hyn, mae wedi dechrau ar HNC Lefel 4, a’i nod yn y pen draw yw bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.

Mae Owen yn gobeithio cymhwyso fel technegydd (EngTech) gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) ac yntau wedi ennill Ysgoloriaeth ICE Quest ac wedi’i ddyfarnu’n Brentis y Flwyddyn gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus ym maes Priffyrdd a Goleuo Strydoedd fis Hydref diwethaf.

Yn awr, mae ar y rhestr fer i ennill gwobr Prentis y Flwyddyn yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ar-lein ar 29 Ebrill.

Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori.

Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Dechreuodd Owen ei brentisiaeth gyda’r cyngor ym mis Medi 2018 a’i fwriad oedd cael profiad gyda gwahanol adrannau. Fodd bynnag, gwnaeth y fath argraff yn ei swydd gyntaf fel iddo gael swydd technegydd llawn amser gyda’r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd ar ôl dim ond ychydig fisoedd.

Defnyddiodd sgiliau cynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) i ddatrys llawer o broblemau posibl â llifogydd, yn cynnwys un mewn cwlfert yn Nhreherbert. Mae wedi cael profiad o weithio mewn 25 achos o lifogydd, Storm Dennis oedd y gwaethaf, a bu’n goruchwylio timau oedd yn ymateb i lifogydd a’n gwneud gwaith adfer yn ardal Pentre.

Dywedodd Owen: “Rwy’n gweithio i’r safon uchaf er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i fy nghyflogwr ac i’r cyhoedd sy’n dibynnu ar fy ngwaith i i’w cadw nhw a’u teuluoedd yn ddiogel mewn stormydd.

“Mae cael y cyfle i ddysgu wrth ennill cyflog trwy’r Rhaglen Brentisiaethau wedi rhoi hwb enfawr i fy hyder ac wedi fy annog i anelu mor uchel ag y gallaf yn fy addysg ac yn fy ngyrfa.”

Dywedodd Owen Griffiths, rheolwr peryglon llifogydd a thomenni glo gyda’r cyngor, bod Owen yn gwneud yn rhagorol yn ei swydd, bob amser yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd a’i fod yn gaffaeliad i’r tîm.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.

“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.

“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”

More News Articles

  —