Penodi cyn-brentis i gefnogi cyflogwyr yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae cyn-brentis wedi’i phenodi i ymgysylltu â chyflogwyr a datblygu cyfleoedd am brentisiaethau yn Ne-orllewin a Chanolbarth Cymru.

Rhianydd Herdman, 25 oed, o Rydaman, yw Rheolwr newydd Datblygu’r Rhaglen Brentisiaethau yn y rhanbarth. Mae’n gweithio i Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) sy’n cynrychioli dros gant o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.

Mae’n un o bum aelod o Dîm Prentisiaethau NTfW a benodwyd i’w gwneud yn haws i gyflogwyr gymryd rhan yn Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru. Nod y tîm yw sicrhau bod rhagor o gyflogwyr yn recriwtio prentisiaid ac yn defnyddio’r Rhaglen Brentisiaethau i gynyddu sgiliau eu gweithwyr presennol.

Yn ogystal, mae’r tîm yn annog recriwtio pobl ifanc i sectorau cyflogaeth o bwysigrwydd cenedlaethol neu ranbarthol.

Ariannir y tîm gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ac mae’n cydweithio â chyflogwyr a rhanddeiliaid ledled Cymru.

Bydd Rhianydd yn cydweithio â chyflogwyr mawr, yn enwedig y rhai sy’n talu’r ardoll brentisiaethau, i ddatblygu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu a phrentisiaethau. Cyfeirir cyflogwyr ati ar ôl iddynt lenwi ffurflen mynegi diddordeb ym Mhorth Sgiliau Busnes Cymru https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/rhaglenni-sgiliau-hyfforddiant/prentisiaethau.

Mae’r tîm yn gobeithio gwneud cyfraniad sylweddol at helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o greu 100,000 o brentisiaethau o safon uchel yng Nghymru yn ei thymor presennol.

Bu Rhianydd, sy’n siarad Cymraeg, yn astudio’r celfyddydau perfformio yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe cyn ei phenodi’n brentis gweinyddu busnes gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin.

Yna, bu’n gweithio ym myd cyllid a gweinyddiaeth gyda’r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol yn Llanelli am dair blynedd cyn ei phenodi’n uwch-swyddog recriwtio gyda phrosiect dysgu seiliedig ar waith ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Wedyn, bu’n swyddog prosiectau ar gyfer Canolfan S4C yng Nghaerfyrddin cyn ymuno â’r NTfW. Dywedodd y byddai ei swydd newydd yn rhoi cyfle iddi ddefnyddio’i phrofiad ym maes hyfforddi a’r iaith Gymraeg.

“Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi cyflogwyr yn rhanbarth De-orllewin a Chanolbarth Cymru i gymryd rhan mewn prentisiaethau ac at helpu pobl ifanc i wybod beth sydd ar gael iddynt,” meddai Rhianydd. “Gan fy mod i wedi bod yn brentis, rwy wedi gweld mantais prentisiaethau drosof fy hunan.

“Mae gen i gysylltiadau â busnesau ledled y rhanbarth oherwydd y swyddi oedd gen i cynt ac rwy wedi dechrau nodi’r anghenion a’r bylchau mewn hyfforddiant. Rwy’n barod i fwrw iddi gyda’r swydd yma.”

Ar ôl i’w gobeithion o fod yn ddawnswraig ballet broffesiynol gael eu chwalu, dywedodd ei bod yn awyddus i sicrhau bod Cymry yn y diwydiannau creadigol yn gallu cael cymwysterau perthnasol i’w gwaith.

Pan na fydd yn gweithio, mae’n dysgu ballet a dawns gyfoes ac yn mwynhau rhedeg. Ei huchelgais yw rhedeg marathon i godi arian i brynu offer ar gyfer Ysbyty Dyffryn Aman er cof am ei thad-cu.

More News Articles

  —