Jared yn cyflawni ei holl dargedau

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Dechreuodd Jarrad ddilyn y rhaglen Ymgysylltu gyda ni ym mis Hydref 2018. Ers dechrau, mae wedi gweithio’n galed i gyflawni’r holl dargedau a bennwyd ar ei gyfer, a mwy. Mae Jarrad wedi dangos ymrwymiad clir o’r cychwyn cyntaf ac mae’n aelod poblogaidd ymhlith yr holl staff a chymheiriaid yn ein canolfan ym Merthyr.

Treuliodd Jarrad yr ychydig wythnosau cyntaf yn y ganolfan ac yno fe lwyddodd i gwblhau pob agwedd ar y broses sefydlu cyn gweithio ar ei sgiliau meddal a’i sgiliau cyflogadwyedd gyda’n Tiwtor.

Yn ystod y broses sefydlu, aeth Jarrad i ymweld â chwmni ailgylchu lleol a oedd yn brofiad difyr iawn iddo, a dyma lle cafodd ei leoli yn y pen draw.

Mae Jarrad bob amser yn gwneud ei orau glas i ddatblygu ei sgiliau ar ôl ysgol. Cwblhaodd gwrs peintio ac addurno yng Ngholeg Merthyr cyn dod i PeoplePlus.

Pan oedd Jarrad yn fabi, cafodd gonfylsiynau gwres ar ôl cael pigiad MMR a arweiniodd at gymhlethdodau. Aeth rhieni Jarrad ag ef i weld Athro yn Llundain a gadarnhaodd fod gan Jarrad anawsterau dysgu difrifol a’i fod yn dangos arwyddion o Awtistiaeth.

Dywedodd ei fam: “Mae bywyd bob dydd yn gallu bod yn anodd i Jarrad gan nad oes ganddo’r sgiliau bywyd llawn fel pawb arall. Mae’n hoffi trefn, mae’n hoffi gwybod pwy fydd yn mynd ag e i lefydd a sut, a gall tasgau syml fod yn anodd iddo”.


“Mae PeoplePlus wedi trawsnewid bywyd Jarrad. Mae nawr yn mynd i Elite Paper Solutions lle mae wedi gwneud cynnydd ardderchog. Mae’r rhaglen yn gyfle i Jarrad adael y tŷ a chwrdd â phobl newydd, yn rhoi ymdeimlad o les, trefn ddyddiol a dealltwriaeth iddo ynghylch bywyd bob dydd. Mae hefyd yn dod adref yn llawn brwdfrydedd wrth ddweud wrtha i, ei dad a’i frawd sut ddiwrnod mae e wedi’i gael”.

Newyddion PeoplePlus Cymru

More News Articles

  —