Hyrwyddo llesiant a hunanhyder ymhlith pobl o bob oed

John Ewart, PLANED Cydlynydd Cadarnhad yn rhoi adborth i Elemental Adventures, ysgol goedwig yng Ngheredigion.
A ydych yn gweithio gyda phobl a allai fod angen yr hyder ychwanegol y byddai cymhwyster yn ei gynnig?
Mae Prosiect Cadarnhad, a gyflwynir gan PLANED (partneriaeth gymunedol), yn canolbwyntio ar rymuso pobl trwy gydnabod a dathlu eu sgiliau a’u profiad.
Nod Prosiect Cadarnhad yw hyrwyddo llesiant a hunanhyder pobl o bob oed sydd, efallai, yn teimlo eu bod wedi’u hallgáu rhag addysg brif ffrwd trwy weithio gyda phobl mewn ffyrdd sy’n gwneud iddynt deimlo’n gyfforddus. Gwneir hyn trwy weithio gyda grwpiau a sefydliadau ledled Cymru i archwilio profiadau a sgiliau y mae unigolion yn eu dysgu neu sgiliau a phrofiadau y mae unigolion yn meddu arnynt eisoes. Mae rhai wedi camu yn eu blaen at brentisiaeth, astudiaeth bellach neu waith.
Dechreuodd y prosiect ym mis Mawrth 2023, yn dilyn astudiaeth beilot fer ac ar ôl cael arian gan y Loteri Genedlaethol trwy gyfrwng y grant Pobl a Lleoedd. Ers i’r astudiaeth beilot gychwynnol honno ddechrau, mae’r 274 o ddysgwyr o Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion wedi cofrestru gydag Agored Cymru, mewn amrywiaeth o bynciau.
Mae PLANED yn ganolfan a gydnabyddir gan Agored Cymru. Caiff ymgeiswyr eu paru ag unedau a chymwysterau Agored Cymru, ac yna cânt eu cynorthwyo tra bydd tystiolaeth asesu’n cael ei chasglu. Mae cymwysterau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg a chaiff y llwyddiannau eu cofnodi trwy gyfrwng dulliau sy’n gweddu i’r unigolyn, yn cynnwys ar ddu a gwyn, ar lafar neu ar ffurf fideo.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae’r prosiect wedi helpu pobl ifanc i ailasesu eu hagweddau at ddysgu ac at yr ysgol. Gyda chymorth Prosiect Cadarnhad, mae pobl hŷn ag anghenion dysgu penodol wedi camu yn eu blaen at gyrsiau eraill ac, mewn ambell achos, maent wedi dod o hyd i waith o ganlyniad uniongyrchol i ennill cymhwyster Agored Cymru.
Mae sefydliadau hyfforddi sy’n gysylltiedig â Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr wedi cael eu hachredu, a hefyd mae rhaglen hyfforddi ac achredu ar gyfer adran anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgol gyfun leol wrthi’n cael ei datblygu.
Milford Youth Matters oedd y sefydliad cyntaf y gweithiodd Prosiect Cadarnhad gydag ef, a chafodd pobl ifanc dystysgrifau mewn gweithgareddau chwaraeon a gwasanaethau i gwsmeriaid.
Mae Prosiect Harbwr Ysgol Bro Gwaun yn gweithio gyda disgyblion ag anghenion cymhleth dwys sy’n dysgu cwricwlwm sgiliau bywyd amgen. Yn sgil y dull arloesol a rydd Prosiect Cadarnhad ar waith gogyfer casglu ac asesu tystiolaeth am ddysgwyr, mae’r bobl ifanc wedi llwyddo i ennill achrediad Agored Cymru.

Cyflwyno tystysgrifau i bobl ifanc i Zoe Davies, rheolwr Ymddiriedolaeth Pobl Ifanc POINT yn Abergwaun.
Dywedodd Darren Howells, Prif Weithredwr, Agored Cymru:
“Rydym yn falch iawn o weithio gyda PLANED a’u cefnogi yn eu hymrwymiadau i helpu dysgwyr i ymgysylltu ag addysg beth bynnag fo’u hamgylchiadau.
Mae gweld dysgwyr a allai fod wedi gweld addysg fel rhwystr yn cyflawni eu nodau yn bleser ac yn ysgogol ac mae’n anrhydedd gan Agored Cymru fod yn rhan o’u llwyddiant
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect a’r modd y gall helpu eich sefydliad chi a’r unigolion rydych yn gweithio gyda nhw, cysylltwch â John Ewart, Cydgysylltydd Prosiect PLANED ar john.ewart@planed.org.uk neu ffoniwch 01834 860965.
More News Articles
« Bydd cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael eu diwygio yn dilyn adolygiad manwl — Adran Brentisiaethau’r Urdd yn dathlu degawd o ymbweru 1,000 o ddysgwyr Cymru »

