Prentisiaeth yn helpu Rebekah i droi hobi’n swydd lawn amser

Postiwyd ar gan NTfW Admin

English | Cymraeg

Rebekah Chatfield yn brysur yn pobi bara yn Brød.

Rebekah Chatfield yn brysur yn pobi bara yn Brød.

“Os oes gennych dân yn eich bol am rywbeth, does dim yn y byd a all chwalu’r awydd i lwyddo,” meddai Rebekah Chatfield, pobydd ifanc dawnus yn Brød (The Danish Bakery Ltd) yng Nghaerdydd.

Trodd Rebekah, 24 oed, o Abertyleri, ei ddiddordeb mewn pobi yn swydd lawn amser pan benderfynodd newid cyfeiriad ar ôl graddio mewn bioleg y môr.

Cafodd ei chyflogi gan sefydlydd Brød, Betina Skovbro, fel prentis pobydd ac fe ddaeth ymlaen yn ardderchog. Mae’r becws a’r siop goffi sydd yn Wyndham Crescent, Pontcanna, yn gwneud bara, cacennau a danteithion crwst fel a geir yn Nenmarc.

Gwnaeth Rebekah gymhwyster Hyfedredd yn Sgiliau’r Diwydiant Pobi gyda’r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian y llynedd ac mae’n ystyried symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch mewn Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd.

Erbyn hyn, cafodd taith ddysgu Rebekah fel pobydd ei chydnabod gan ei bod wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau.

Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru a gyflwynir mewn seremoni fawreddog yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol newydd Cymru, Casnewydd ar 24 Hydref.

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir Gwobrau Prentisiaethau Cymru ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a’r prif noddwr eleni yw Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Yn ystod ei phrentisiaeth, bu Rebekah ar leoliadau gwaith mewn dau fecws yn Copenhagen ac ar ymweliad â becws diwydiannol yn yr Almaen ac â’r cwmni sy’n cyflenwi blawd i Brød er mwyn ehangu ei gwybodaeth a’i sgiliau.

A hithau’n awyddus i fod yn bobydd o’r safon uchaf, mae wedi cystadlu mewn gornestau pobi bara ym Mhrydain a thramor. Yn ogystal, mae wedi helpu un o brentisiaid Brød i ddatblygu surdoes cyri, a enillodd y wobr am arloesi yng nghystadleuaeth Britain’s Best Loaf.

Diolch i’r profiad a gafodd ar ei phrentisiaeth, mae wedi cyflwyno trefn gynhyrchu i wella llif y gwaith, ac mae’n datblygu ryseitiau a chynhyrchion newydd, yn lleihau gwastraff bwyd ac yn mentora prentisiaid y cwmni.

“Doeddwn i erioed wedi ystyried prentisiaeth o’r blaen ond, wrth astudio ar gyfer cymhwyster galwedigaethol, does dim byd gwell nag ennill profiad wrth ddysgu’r sgiliau angenrheidiol,” meddai Rebekah.

Dywedodd Betina fod Rebekah yn “batrwm o brentis” ac yn “llysgennad gwych” i’r cwmni. “Cynnig swydd barhaol iddi ar ddiwedd ei hyfforddiant oedd y penderfyniad hawsaf erioed,” meddai.

Llongyfarchodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Rebekah a phawb arall sydd ar y rhestrau byrion.

“Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru,” meddai.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant yr unigolion a’r sefydliadau disglair sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion.”

More News Articles

  —