Prentisiaeth yn trawsnewid bywyd peiriannydd prosiectau

Postiwyd ar gan admin

English | Cymraeg

Daren Chesworth, wrth ei fodd â pheirianneg cynnal a chadw.

Daren Chesworth, wrth ei fodd â pheirianneg cynnal a chadw.

Mae Daren Chesworth, peiriannydd cynnal, yn profi y gall prentisiaethau newid bywydau

Aeth Daren, 30 oed, sy’n byw yn Garden Village, Wrecsam, i weithio gyda Transcontinental AC UK Ltd yn y dref ar ôl i’w swydd fel plymer ddod i ben ac yntau â theulu i’w gynnal.

Diolch i’r llwybr prentisiaethau, mae’r gweithiwr di-grefft wedi cymhwyso’n beiriannydd cynnal sy’n rhan o dîm aml-adrannol ar wahanol brosiectau.

Yn awr, cafodd ei ymdrechion eu cydnabod ac mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Bydd yn cystadlu i fod yn Brentis Uwch y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo fawreddog yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor, Casnewydd ar 9 Tachwedd.

Bwriad y gwobrau blynyddol yw arddangos a dathlu llwyddiant eithriadol dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u cefnogir gan Media Wales, y partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae 30 o gyflogwyr, dysgwyr a darparwyr dysgu o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru.

Wrth gael ei hyfforddi’n dechnegydd cynnal a chadw amlsgiliau, Daren oedd prentis cyntaf Transcontinental AC UK Ltd ac fe gwblhaodd ei Brentisiaeeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg trwy Goleg Cambria.

Yna, symudodd ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) a gradd mewn Peirianneg Ddiwydiannol (Mecatroneg) gydag Anrhydedd, gan roi’r wybodaeth a’r sgiliau roedd wedi’u dysgu ar waith.

Ei nod yw bod yn Beiriannydd Siartredig ac yn arbenigwr ar beirianneg cynnal a chadw trwy wneud gwaith ymchwil ôl-radd. Cyn hir, bydd yn cwblhau ei MPhil cyn dechrau astudio ar gyfer MBA.

Diolch i’r hyn a ddysgodd, cafodd gyfle i gyflwyno papur ymchwil ar dechnegau cynnal a chadw newydd mewn uwchgynhadledd ddiwydiannol ryngwladol ym mis Mawrth. Mae’n datblygu strategaeth gynnal a chadw ‘glyfar’ ac mae wedi cyflwyno dull newydd o brofi pympiau trosglwyddo y disgwylir iddo arbed dros £20,000 y flwyddyn i’w gyflogwr.

“Mae’r brentisiaeth wedi bod yn fan cychwyn i mi ddatblygu gyrfa mewn pwnc rwy’n credu’n gryf ynddo,” meddai Daren, gan gamol ei gyflogwr a Choleg Cambria am eu cefnogaeth. “Rwy am rannu fy mhrofiad ag eraill yn y gobaith y gallaf ddangos bod prentisiaeth wir yn gallu newid eich bywyd.”

Dywedodd Dr Keith Vidamour, rheolwr peirianneg Transcontinental AC UK Ltd: “O’r dechrau, roedd yn amlwg bod gan y cwmni ddisgwyliadau uchel o’u prentisiaid ac mae Daren wedi rhagori ar y disgwyliadau hynny.”

Wrth longyfarch Daren ar gyrraedd y rhestr fer, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu gydol Oes, Eluned Morgan: “Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn tynnu sylw at lwyddiant Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru a’r hyn y mae ein prentisiaid, ein cyflogwyr, ein darparwyr dysgu a’n hyfforddeion disglair wedi’i gyflawni.

“Mae prentisiaethau’n ffordd wych i unigolion feithrin sgiliau gwerthfawr a phrofiad ac ennill cyflog ar yr un pryd, ac i gyflogwyr sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol gan eu gweithlu i baratoi’r busnes ar gyfer y dyfodol.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Darllenwch fwy am y rhai sydd yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru

More News Articles

  —