Prentisiaid Gwallt a Harddwch ar eu Ffordd i Salonau yn Sbaen
Mae naw o brentisiaid gwallt a harddwch ar eu ffordd i gael profiad gwaith arbennig – yn Sbaen.
Mae’r criw o brentisiaid trin gwallt, gwaith barbwr a harddwch ar eu ffordd i Sbaen (Mawrth 17 – Ebrill 1) fel rhan o’u prentisiaeth gyda’r darparwr hyfforddiant o Gymru, ISA Training.
Byddant yn treulio pythefnos yn gweithio mewn salonau yn Tarragona, Catalonia yn dysgu gwahanol sgiliau trin gwallt a harddwch.
Trefnwyd y cynllun lleoliadau profiad gwaith gan ISA Training a L’Institut Cal·lípolis – y sefydliad a fydd yn eu croesawu – a gyda chymorth ariannol gan raglen Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.
Y prentisiaid lwcus yw: Athena Yiacoumi (Lazarou Brothers, Caerdydd), Adam Robst (The Barbershop, Caerdydd), Francesca Sterry (Revival H&B, Lydney), Romie Bow (New Look Beauty Care, y Fenni), Chloe Morris (The Beauty Box, Merthyr Tudful), Ceara Clark (KLM Barbers, Cil-y-coed), Chloe Woodward (Reds, Stroud), ynghyd â Rosie Walters a Tyler Williams y ddau o Lara Johnson Lifestyle yn y Mwmbwls, Abertawe.
Mae ISA Training wedi meithrin cysylltiadau cryf gyda llawer o salonau yn Sbaen, meddai arweinydd y daith a rheolwr partneriaethau ISA, Cheryl Pearcey a fydd yn arwain y grŵp gydag aelodau eraill o’r staff, Lisa Lee, sicrhawr ansawdd mewnol, a’r ymarferydd prentisiaethau, Emily George.
Meddai Cheryl, “Dyma fydd ein pedwaredd daith i Sbaen. Mae gennym leoliadau gwaith mewn salonau cyfarwydd a rhai mewn salonau newydd ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r rhai newydd.
“Bydd y dysgwyr yn gweithio diwrnodau saith neu wyth awr o ddydd Mawrth tan ddydd Sadwrn fel y byddent yn ei wneud gartref. Ar eu dyddiau rhydd, rydym wedi trefnu ymweliadau a gweithgareddau gan fod y rhaglen wedi’i chynllunio i ehangu eu gorwelion a rhoi’r hyder iddynt deithio hefyd.
I baratoi ar gyfer y profiad gwaith yn Sbaen, bu ISA Training yn cynnal gweithdai iaith a diwylliant ac yn eu harwain trwy’r broses o lenwi’r dogfennau Ewropeaidd angenrheidiol.
Dywedodd Cheryl, “Bydd y profiad yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i’r dysgwyr ynghyd â’r hyder i weithio yn unrhyw le yn y byd.”
ISA Training o Ben-y-bont ar Ogwr yw darparwr hyfforddiant annibynnol mwyaf Cymru ym maes trin gwallt a harddwch.
Mae’n cynnig rhaglenni a ariannir gan y llywodraeth mewn Trin Gwallt a Harddwch ac yn gweithio gyda dros 700 o ddysgwyr a 450 o gyflogwyr.
Trefnwyd yr ymweliad â Sbaen fel rhan o brosiect Oyster gan ISA Training, a seilir ar y dywediad ‘The world is your oyster’. Nod y prosiect yw ychwanegu at brofiad y prentisiaid o ddysgu, eu gwneud yn fwy hyderus ac ehangu eu gorwelion o ran gyrfa.
Mae dysgwyr ISA Training wedi elwa ar brofiad gwaith mewn sawl gwlad yn cynnwys Sbaen, Cyprus, Gwlad Pwyl, Twrci, UDA ac, yn fwyaf diweddar, y Ffindir a’r Almaen.
More News Articles
« Llwyddiant Manwerthu NVQ ar Gyfer Kieran yn Savers! — Daeth yn bryd ymgeisio am Wobrau Prentisiaethau Cymru 2019 »