Partneriaeth newydd am geisio sicrhau mwy o brentisiaid i’r Gwasanaeth Sifil yng Nghymru

Postiwyd ar gan karen.smith

English | Cymraeg

Mae partneriaeth newydd yn cael ei datblygu er mwyn cyflwyno Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru i ragor o gyflogwyr y Gwasanaeth Sifil sy’n gweithio i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru.

Daeth Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) a Swyddfa Cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig at ei gilydd i sicrhau bod prentisiaethau ar gael i bobl sydd eisoes yn gweithio yn y Gwasanaeth Sifil ac eraill.

Mae’r NTfW yn cynrychioli dros 70 o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith â sicrwydd ansawdd sy’n cyflenwi prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru.

Gan gydweithio’n agos â busnesau a rhanddeiliaid ledled Cymru, Tîm Prentisiaethau NTfW sy’n trin yr holl ymholiadau am brentisiaethau sy’n dod oddi wrth gyflogwyr trwy Borth Sgiliau Busnes Cymru a drefnir gan Lywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop sy’n ariannu’r tîm a Rhaglen Brentisiaethau Cymru.

Diolch i bartneriaeth bresennol y tîm gyda’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae’r gwaith o greu Fframwaith Prentisiaeth ar gyfer Swyddog Cadw yn y Ddalfa, Lefel 3, yng Nghymru, eisoes ar y gweill.

O ganlyniad i’r bartneriaeth lwyddiannus hon, cynhaliwyd cynhadledd ar-lein gyda Swyddfa’r Cabinet yr wythnos ddiwethaf yng nghwmni gweision sifil sydd mewn swyddi uchel mewn nifer o adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cafwyd cyflwyniadau gan Jeff Protheroe, cyfarwyddwr gweithrediadau NTfW, a Catherine Morris-Roberts, rheolwr datblygu rhaglenni prentisiaethau NTfW, am flaenoriaethau sgiliau ac uchelgeisiau strategol Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru a’r cymorth sydd ar gael i gyflogwyr.

Nod y gynhadledd oedd sicrhau mwy o gyfleoedd am brentisiaethau yn y Gwasanaeth Sifil trwy gynyddu cydweithio, rhannu arferion gorau a datblygu dull strategol o weithio er budd economi’r Deyrnas Unedig.

Ers hynny, mae NTfW wedi siarad â thair adran yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â diddordeb mewn recriwtio prentisiaid neu drefnu i staff presennol ddatblygu i lefel prentisiaeth radd.

Gan fod llawer o adrannau Llywodraeth y DU yn talu’r Ardoll Brentisiaethau, maent yn awyddus i fanteisio i’r eithaf ar y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru. Mae Tîm Prentisiaethau NTfW yn arwain y Gwasanaeth Sifil trwy’r broses o drefnu prentisiaethau yng Nghymru, sy’n wahanol iawn i’r broses yn Lloegr.

“Cynhaliwyd y gynhadledd o ganlyniad i’r berthynas weithiol dda sydd wedu datblygu rhwng NTfW a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ers ychydig flynyddoedd,” esboniodd Catherine.

“Soniodd ein cysylltydd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth ei gydweithwyr yn Swyddfa’r Cabinet am y gwasanaeth a’r gefnogaeth y mae’r Tîm Prentisiaethau’n ei gynnig i gyflogwyr yng Nghymru. Roedd yn gweld gwerth sôn wrth adrannau eraill yn Llywodraeth y DU sut mae’r Rhaglen Brentisiaethau yn gweithio yng Nghymru hefyd.

“Mae’n bosibl y cynhelir rhagor o gyfarfodydd chwarterol i dderbyn adroddiadau cynnydd a newyddion am y Rhaglen Brentisiaethau. Mae llawer mwy o waith i’w wneud ond bwriadwn barhau â’n partneriaeth â Swyddfa’r Cabinet a chysylltu ag adrannau eraill o’r Gwasanaeth Sifil yma yng Nghymru.

“Rydym wedi dweud pa mor bwysig ydyw i’r Gwasanaeth Sifil sôn wrth Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol Cymru am y sgiliau penodol y mae arnynt eu hangen.”

More News Articles

  —